Atwrneiaeth barhaus: gweithredu fel atwrnai
Printable version
1. Trosolwg
Gallwch helpu i wneud, neu wneud penderfyniadau eich hun am eiddo ac arian rhywun os ydynt wedi eich penodi drwy ddefnyddio atwrneiaeth barhaus (EPA).
Gelwir y person wnaeth eich penodi yn 鈥榬hoddwr鈥� 鈥� chi yw ei 鈥榓twrnai鈥�.
Rhaid i unrhyw benderfyniad a wnewch ar ran y rhoddwr fod ar sail eu lles gorau.
Bydd angen i chi wirio os yw鈥檙 rhoddwr wedi rhoi cyfarwyddiadau neu ganllawiau penodol i chi yn y ddogfen EPA fydd yn effeithio ar eich cyfrifoldebau.
Dim ond atwrniaethau parhaus a wnaed ac a lofnodwyd cyn 1 Hydref 2007 y gellir parhau i鈥檞 defnyddio. Ar 么l y dyddiad hwnnw roedd rhaid i roddwyr wneud atwrneiaeth arhosol (LPA).
Mae鈥檙 canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Defnyddio鈥檙 atwrneiaeth barhaus
Gallwch ddechrau defnyddio EPA ar unrhyw adeg os yw鈥檙 EPA yn gyfreithiol ac mae鈥檙 rhoddwr yn rhoi caniat芒d i chi.
Byddwch yn gyfrifol am helpu鈥檙 rhoddwr i wneud penderfyniadau am faterion ariannol. Gan ddibynnu ar eu cyfarwyddiadau, byddwch yn helpu gyda phethau fel:
- arian a biliau
- cyfrifon banc a chymdeithas adeiladu
- eiddo a buddsoddiadau
- pensiynau a budd-daliadau
Gallai fod atwrneiod eraill 鈥� os oes, dylech gadarnhau sut y mae鈥檙 rhoddwr eisiau i chi wneud penderfyniadau.
Rhaid i chi 驳辞蹿谤别蝉迟谤耻鈥檙 EPA pan fydd y rhoddwr yn dechrau colli, neu eisoes wedi colli ei alluedd meddyliol. Mae hyn yn golygu na all wneud penderfyniad pan fo angen ei wneud oherwydd diffyg meddyliol.
Er hynny, mae鈥檔 rhaid i chi barhau i gynnwys y rhoddwr pan fyddwch yn gwneud penderfyniadau lle bynnag y bo hynny鈥檔 bosib, a dim ond gwneud penderfyniadau drostynt sydd er eu lles gorau.
Rhoi鈥檙 gorau i fod yn atwrnai
Bydd yr EPA yn dod i ben os bydd y rhoddwr yn ei ganslo neu鈥檔 marw.
Gallwch ddewis rhoi鈥檙 gorau i fod yn atwrnai.
Efallai y bydd rhaid cynnal ymchwiliad os gwneir cwyn yn eich erbyn. Gall Swyddfa鈥檙 Gwarcheidwad Cyhoeddus wneud cais i鈥檙 Llys Gwarchod i鈥檆h atal.
2. Cofrestru atwrneiaeth barhaus
Rhaid i chi 驳辞蹿谤别蝉迟谤耻鈥檙 atwrneiaeth barhaus (EPA) cyn gynted ag y bo鈥檙 rhoddwr yn dechrau colli galluedd meddyliol.
-
Dywedwch wrth y rhoddwr, ei deulu ac atwrneiod eraill eich bod yn bwriadu cofrestru鈥檙 EPA.
-
Gwnewch gais i 驳辞蹿谤别蝉迟谤耻鈥檙 EPA.
-
Talwch y ffi.
Dweud wrth bobl eich bod am gofrestru
Dylech lawrlwytho a llenwi ffurflen EP1PG, a鈥檌 hanfon at:
- y rhoddwr
- o leiaf tri aelod o deulu鈥檙 rhoddwr sy鈥檔 gymwys 鈥� rhaid iddyn nhw fod yn 18+ oed a gyda galluedd meddyliol
- unrhyw atwrneiod a benodwyd 鈥榓r y cyd ac yn unigol鈥� ond nad ydynt yn gwneud cais i 驳辞蹿谤别蝉迟谤耻鈥檙 EPA
Rhaid ichi ddweud wrth y tri aelod teulu cyntaf sy鈥檔 gymwys, o鈥檙 rhestr ganlynol. Os nad oes aelod o鈥檙 teulu yn y categori, dylech symud ymlaen i鈥檙 nesaf. Rhaid i chi geisio dweud wrth aelodau鈥檙 teulu yn y drefn hon:
- g诺r, gwraig neu bartner sifil y rhoddwr
- plant y rhoddwr (gan gynnwys plant wedi eu mabwysiadu ond nid llys-blant)
- rhieni鈥檙 rhoddwr
- brodyr a chwiorydd y rhoddwr (gan gynnwys hanner brodyr a chwiorydd)
- g诺r neu wraig weddw neu bartner sifil sy鈥檔 goroesi plentyn y rhoddwr
- wyrion ac wyresau鈥檙 rhoddwr
- neiaint a nithoedd y rhoddwr (plant brodyr a chwiorydd llawn y rhoddwr)
- neiaint a nithoedd y rhoddwr (plant hanner brodyr a chwiorydd y rhoddwr)
- modrybedd ac ewythrod y rhoddwr (brodyr a chwiorydd llawn rhiant y rhoddwr)
- cefndryd neu gyfnitherod cyntaf y rhoddwr (plant modrybedd ac ewythrod y rhoddwr sy鈥檔 frodyr a chwiorydd llawn i riant y rhoddwr)
Rhaid i chi ddweud wrth yr holl bobl mewn categori os ydych yn dweud wrth un, er enghraifft, os yw 1 o鈥檙 3 perthynas yr ydych yn dweud wrthynt yn 诺yr neu wyres ac mae gan y rhoddwr 15 o wyrion / wyresau eraill, rhaid i chi ddweud wrth y 16 ohonynt.
Os ydych yn aelod o鈥檙 teulu ac yn atwrnai, byddwch yn cyfrif fel un o鈥檙 bobl y mae鈥檔 rhaid dweud wrtho, ond rhaid i chi hefyd ddweud wrth bobl eraill yn eich categori.
Rhaid i chi wneud eich gorau i ddod o hyd i鈥檙 bobl y mae鈥檔 rhaid dweud wrthyn nhw. Os na allwch ddod o hyd i鈥檞 cyfeiriad neu os nad oes tri pherthynas yn fyw, rhaid dweud wrth Swyddfa鈥檙 Gwarcheidwad Cyhoeddus pan wnewch gais i gofrestru.
Gall y bobl y dywedwch wrthynt wrthwynebu i鈥檙 cofrestru. Mae ganddynt 35 diwrnod i wrthwynebu o鈥檙 dyddiad y maent yn cael y ffurflen.
Gwneud cais i gofrestru
Dylech lawrlwytho a llenwi ffurflen gais EP2PG.
Cyn gynted ag y dywedwch yn swyddogol wrth bobl am eich bwriad i gofrestru, rhaid anfon y ffurflen i Swyddfa鈥檙 Gwarcheidwad Cyhoeddus.
Office of the Public Guardian
PO Box 16185
Birmingham
B2 2WH
Defnyddiwch gyfeiriad gwahanol os ydych yn aelod o wasanaeth cludo DX Exchange.
Office of the Public Guardian
DX 744240
Birmingham 79
Dylech gynnwys y ffurflen EPA wreiddiol neu gopi ardystiedig os collwyd yr un wreiddiol.
Bydd hefyd angen i chi dalu鈥檙 ffi.
Ffioedd
Mae鈥檔 costio 拢82 i gofrestru EPA, oni bai eich bod yn gwneud cais am help i dalu ffioedd (LPA120).
Anfonwch siec am y ffi berthnasol a鈥檌 gwneud yn daladwy i 鈥楽wyddfa鈥檙 Gwarcheidwad Cyhoeddus鈥�. Cofiwch roi enw鈥檙 rhoddwr ar gefn y siec.
Pa mor hir y mae cofrestru鈥檔 ei gymryd
Fel arfer, bydd yr EPA yn cael ei chofrestru rhwng 8 a 10 wythnos ar 么l i chi anfon y ffurflen gais a dweud wrth y teulu. Bydd yn cymryd mwy o amser os oes rhywun o鈥檙 teulu鈥檔 gwrthwynebu.
3. Gwirio bod atwrneiaeth barhaus yn gyfreithiol
Gallwch ond defnyddio atwrneiaeth barhaus (EPA) os cafodd ei gwneud yn gywir.
Dylech wirio bod y ffurflen聽EPA:
- wedi ei llenwi pan oedd y rhoddwr yn 18 oed o leiaf ac yn gallu gwneud ei benderfyniadau ei hun (heb golli 鈥榞alluedd meddyliol鈥�)
- wedi ei llofnodi gan y rhoddwr a thyst nad yw鈥檔 un o atwrneiod yr EPA
- wedi ei llofnodi gan yr atwrneiod i gyd
Pan wnaed yr EPA, roedd yn rhaid i chi ac unrhyw atwrnai arall fod:
- yn 18+ oed
- heb fod yn fethdalwr 鈥� a heb fod yn fethdalwr ers hynny
Dim ond atwrneiaeth barhaus (EPA) a wnaed ac a lofnodwyd cyn 1 Hydref 2007 y gellir parhau i鈥檞 defnyddio. Ar 么l y dyddiad hwnnw roedd yn rhaid i roddwyr wneud atwrneiaeth arhosol (LPA).
4. Pan fydd mwy nag un atwrnai
Darllenwch y ffurflen atwrneiaeth barhaus (EPA) i weld faint o atwrneiod a benodwyd.
Os oes mwy nag un atwrnai, dylech gadarnhau a oes rhaid i chi wneud penderfyniadau:
- ar wah芒n neu gyda鈥檆h gilydd (鈥榓r-y-cyd neu鈥檔 unigol鈥�) sy鈥檔 golygu y gallwch wneud penderfyniadau ar eich pen eich hun neu gydag atwrneiod eraill
- gyda鈥檆h gilydd (鈥榓r-y-cyd鈥�) sy鈥檔 golygu bod rhaid i chi a鈥檙 holl atwrneiod eraill gytuno ar benderfyniad
Gall y rhoddwr eich cyfarwyddo i wneud rhai penderfyniadau 鈥榓r-y-cyd鈥� a rhai 鈥榓r-y-cyd ac yn unigol鈥�.
Rhaid i atwrneiod a benodir ar y cyd i gyd gytuno, neu ni allent wneud y penderfyniad.
Atwrneiod ar y cyd
Os penodir chi ar y cyd ag atwrnai neu atwrneiod eraill ac mae un ohonoch yn rhoi鈥檙 gorau i fod yn atwrnai, bydd yr atwrneiaeth barhaus yn dod i ben yn awtomatig.
Bydd angen i chi ganfod ffordd arall o helpu鈥檙 rhoddwr i wneud penderfyniadau.
5. Eich dyletswyddau
Byddwch chi鈥檔 gyfrifol am helpu鈥檙 rhoddwr i wneud penderfyniadau am bethau fel:
- arian a biliau
- cyfrifon banc a chymdeithas adeiladu
- eiddo a buddsoddiadau
- pensiynau a budd-daliadau
Dylech ddarllen y ffurflen atwrneiaeth barhaus (EPA) i weld a yw鈥檙 rhoddwr wedi rhoi:
- cyfyngiadau ar beth allwch ei wneud
- canllawiau ar sut y maent eisiau i benderfyniadau gael eu gwneud
Sut i ofalu am faterion ariannol y rhoddwr
Rhaid i chi ofalu am faterion ariannol y rhoddwr ar sail eu lles gorau.
Dylech gadw materion ariannol y rhoddwr ar wah芒n i鈥檆h rhai chi, oni bai fod gennych gyfrif banc ar y cyd neu鈥檔 gyd-berchen ar gartref. Os ydych, rhaid i chi ddweud wrth y banc neu鈥檙 cwmni morgais eich bod yn gweithredu fel atwrnai鈥檙 person arall.
Rhaid i chi gadw cyfrifon o asedau, incwm, gwariant ac all-daliadau鈥檙 rhoddwr. Gall Swyddfa鈥檙 Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG) a鈥檙 Llys Gwarchod ofyn am gael gwirio鈥檙 pethau hyn.
Gallwch gael eich erlyn os byddwch yn camddefnyddio arian y rhoddwr.
Rhoddion
Gallwch brynu anrhegion neu roi rhoddion ariannol ar ran y rhoddwr, gan gynnwys gwneud rhoddion i elusennau. Dylech wneud rhoddion dim ond:
- i bobl a fyddai fel arfer yn cael rhoddion gan y rhoddwr
- ar achlysuron addas - er enghraifft, pen-blwydd, priodas
- i elusennau sydd fel arfer yn cael rhoddion gan y rhoddwr
Rhaid i鈥檙 rhoddion fod yn rhesymol 鈥� dylech ddarllen y canllawiau ar roddion addas.
Prynu neu werthu eiddo
Gallwch brynu neu werthu eiddo ar ran y rhoddwr os yw hynny ar sail ei les gorau.
Dylech gysylltu 芒鈥檙 OPG:
- os yw鈥檙 gwerthiant o dan werth y farchnad
- os ydych chi neu eich teulu eisiau prynu鈥檙 eiddo
- os ydych yn ei roi i rywun arall
Gallant roi cyngor i chi a fydd angen i chi wneud cais i鈥檙 Llys Gwarchod ar y mater neu beidio.
Os ydych yn gwerthu cartref y rhoddwr ac mae gan y rhoddwr atwrneiaeth arhosol (LPA) iechyd a lles, efallai y bydd angen i chi drafod ble bydd y rhoddwr yn mynd i fyw gyda鈥檙 atwrnai perthnasol.
Swyddfa鈥檙 Gwarcheidwad Cyhoeddus
customerservices@publicguardian.gov.uk
Ff么n (yn Saesneg yn unig): 0300 456 0300
Ff么n testun (yn Saesneg yn unig): 0115 934 2778
Dydd Llun, dydd Mawrth, dydd Iau, dydd Gwener, 9am tan 5pm
Dydd Mercher, 10am tan 5pm
Gwybodaeth am gost galwadau
Os hoffech siarad Cymraeg, anfonwch ebost i Swyddfa鈥檙 Gwarcheidwad Cyhoeddus
Office of the Public Guardian
PO Box 16185
Birmingham
B2 2WH
Ewyllysiau
Ni allwch wneud ewyllys ar ran y rhoddwr.
Gallwch wneud cais i鈥檙 Llys Gwarchod am 鈥榚wyllys statudol鈥� os oes angen i鈥檙 rhoddwr wneud ewyllys, ond nid oes galluedd meddyliol ganddynt i wneud hyn.
6. Taliadau a chostau
Oni bai eich yn atwrnai proffesiynol, ni fyddwch fel arfer yn cael eich talu am fod yn atwrnai i rywun.
Costau
Gallwch hawlio costau am bethau y mae鈥檔 rhaid i chi eu gwneud i gyflawni eich dyletswyddau fel atwrnai, er enghraifft:
- costau teithio
- deunydd ysgrifennu
- costau postio
- galwadau ff么n
Cadwch eich derbynebau ac anfonebwch y rhoddwr am eich costau.
7. Rhoi'r gorau i weithredu fel atwrnai
Byddwch yn rhoi鈥檙 gorau i weithredu fel atwrnai i鈥檙 rhoddwr:
- os bydd y rhoddwr yn marw 鈥� bydd yr atwrneiaeth barhaus (EPA) yn dod i ben yn awtomatig
- os dewiswch roi鈥檙 gorau i fod yn atwrnai 鈥� a elwir weithiau鈥檔 鈥榙iddymu鈥� neu 鈥榶mwrthod鈥� atwrneiaeth
- os byddwch yn datgan eich hun yn fethdalwr
Os byddwch yn rhoi鈥檙 gorau i fod yn atwrnai rhaid i chi lenwi鈥檙 ffurflenni perthnasol a chyflwyno鈥檙 dogfennau perthnasol.
Os oedd rhaid gwneud penderfyniadau ar y cyd ag atwrneiod eraill ac mae un ohonoch yn rhoi鈥檙 gorau iddi, daw鈥檙 atwrneiaeth barhaus i ben yn awtomatig. Bydd angen i chi ddod o hyd i ffordd arall i helpu鈥檙 rhoddwr i wneud penderfyniadau.
Os yw鈥檙 rhoddwr neu atwrnai arall yn marw
Rhaid i chi roi gwybod i Swyddfa鈥檙 Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG) ac anfon yr EPA wreiddiol a phob copi ardystiedig.
Os bu farw鈥檙 rhoddwr neu鈥檙 atwrnai y tu allan i鈥檙 Deyrnas Unedig, rhaid i chi hefyd anfon copi o鈥檙 dystysgrif marwolaeth.
Beth fydd yn digwydd i鈥檙 Atwrneiaeth Barhaus (EPA) gyfredol
Bydd y Swyddfa Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG) yn canslo鈥檙 EPA os bydd y rhoddwr yn marw, neu os bydd atwrnai yn marw a naill ai:
-
roedd rhaid i鈥檙 atwrneiod wneud yr holl benderfyniadau gyda鈥檌 gilydd 鈥� gelwir hyn yn gweithredu 鈥榓r y cyd鈥�
-
roedd dim ond un atwrnai
Bydd EPA a ganslwyd yn cael ei dinistrio. Os byddwch yn dymuno i鈥檙 OPG ei hanfon yn 么l atoch yn lle hyn, dylech gynnwys nodyn yn gofyn iddi gael ei dychwelyd a chynnwys cyfeiriad dychwelyd.
Os bydd atwrnai yn marw a bod yr atwrneiod yn gallu gwneud penderfyniadau ar eu pen eu hunain (a elwir yn gweithredu 鈥榓r y cyd ac yn unigol鈥�), bydd yr OPG yn diweddaru鈥檙 EPA yn lle ei dinistrio. Bydd rhaid i chi gynnwys cyfeiriad dychwelyd pan fyddwch yn anfon yr EPA.
Swyddfa鈥檙 Gwarcheidwad Cyhoeddus
customerservices@publicguardian.gov.uk
Ff么n (yn Saesneg yn unig): 0300 456 0300
Ff么n testun (yn Saesneg yn unig): 0115 934 2778
Dydd Llun, dydd Mawrth, dydd Iau, dydd Gwener, 9am tan 5pm
Dydd Mercher, 10am tan 5pm
Gwybodaeth am gost galwadau
Os hoffech siarad Cymraeg, anfonwch ebost i Swyddfa鈥檙 Gwarcheidwad Cyhoeddus
Office of the Public Guardian
PO Box 16185
Birmingham
B2 2WH
Os ydych am roi鈥檙 gorau i fod yn atwrnai
Os penderfynwch roi鈥檙 gorau i fod yn atwrnai, dylech lenwi ac anfon ffurflen hysbysu a鈥檌 hanfon at:
- y rhoddwr 鈥� os nad yw鈥檙 EPA wedi cael ei chofrestru
- y rhoddwr a鈥檙 OPG 鈥� os yw鈥檙 EPA wedi cael ei chofrestru
Dylech hefyd ddweud wrth unrhyw atwrneiod eraill a enwir ar yr EPA.
Office of the Public Guardian
PO Box 16185
Birmingham
B2 2WH