Atwrneiaeth barhaus: gweithredu fel atwrnai
Rhoi'r gorau i weithredu fel atwrnai
Byddwch yn rhoi’r gorau i weithredu fel atwrnai i’r rhoddwr:
- os bydd y rhoddwr yn marw � bydd yr atwrneiaeth barhaus (EPA) yn dod i ben yn awtomatig
- os dewiswch roi’r gorau i fod yn atwrnai � a elwir weithiau’n ‘diddymu� neu ‘ymwrthod� atwrneiaeth
- os byddwch yn datgan eich hun yn fethdalwr
Os byddwch yn rhoi’r gorau i fod yn atwrnai rhaid i chi lenwi’r ffurflenni perthnasol a chyflwyno’r dogfennau perthnasol.
Os oedd rhaid gwneud penderfyniadau ar y cyd ag atwrneiod eraill ac mae un ohonoch yn rhoi’r gorau iddi, daw’r atwrneiaeth barhaus i ben yn awtomatig. Bydd angen i chi ddod o hyd i ffordd arall i helpu’r rhoddwr i wneud penderfyniadau.
Os yw’r rhoddwr neu atwrnai arall yn marw
Rhaid i chi roi gwybod i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG) ac anfon yr EPA wreiddiol a phob copi ardystiedig.
Os bu farw’r rhoddwr neu’r atwrnai y tu allan i’r Deyrnas Unedig, rhaid i chi hefyd anfon copi o’r dystysgrif marwolaeth.
Beth fydd yn digwydd i’r Atwrneiaeth Barhaus (EPA) gyfredol
Bydd y Swyddfa Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG) yn canslo’r EPA os bydd y rhoddwr yn marw, neu os bydd atwrnai yn marw a naill ai:
-
roedd rhaid i’r atwrneiod wneud yr holl benderfyniadau gyda’i gilydd � gelwir hyn yn gweithredu ‘ar y cyd�
-
roedd dim ond un atwrnai
Bydd EPA a ganslwyd yn cael ei dinistrio. Os byddwch yn dymuno i’r OPG ei hanfon yn ôl atoch yn lle hyn, dylech gynnwys nodyn yn gofyn iddi gael ei dychwelyd a chynnwys cyfeiriad dychwelyd.
Os bydd atwrnai yn marw a bod yr atwrneiod yn gallu gwneud penderfyniadau ar eu pen eu hunain (a elwir yn gweithredu ‘ar y cyd ac yn unigol�), bydd yr OPG yn diweddaru’r EPA yn lle ei dinistrio. Bydd rhaid i chi gynnwys cyfeiriad dychwelyd pan fyddwch yn anfon yr EPA.
Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus
[email protected]
Ffôn (yn Saesneg yn unig): 0300 456 0300
(os na allwch glywed neu siarad dros y ffôn): 18001 yna 0300 123 1300
Dydd Llun, dydd Mawrth, dydd Iau, dydd Gwener, 9am tan 5pm
Dydd Mercher, 10am tan 5pm
Gwybodaeth am gost galwadau
Os hoffech siarad Cymraeg, anfonwch ebost i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus
Office of the Public Guardian
PO Box 16185
Birmingham
B2 2WH
Os ydych am roi’r gorau i fod yn atwrnai
Os penderfynwch roi’r gorau i fod yn atwrnai, dylech lenwi ac anfon ffurflen hysbysu a’i hanfon at:
- y rhoddwr � os nad yw’r EPA wedi cael ei chofrestru
- y rhoddwr a’r OPG � os yw’r EPA wedi cael ei chofrestru
Dylech hefyd ddweud wrth unrhyw atwrneiod eraill a enwir ar yr EPA.
Office of the Public Guardian
PO Box 16185
Birmingham
B2 2WH