Ffurflenni Treth Hunanasesiad
Printable version
1. Trosolwg
Mae Hunanasesiad yn system y mae Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn ei defnyddio i gasglu Treth Incwm.
Fel arfer, didynnir treth yn awtomatig oddi wrth gyflogau a phensiynau. Mae’n rhaid i bobl a busnesau sydd ag incwm arall roi gwybod am yr incwm hwn mewn Ffurflen Dreth Hunanasesiad.
Os oes angen i chi anfon Ffurflen Dreth Hunanasesiad, dylech ei llenwi ar ôl diwedd y flwyddyn dreth (5 Ebrill) y mae’n berthnasol iddi.
Mae’n rhaid i chi anfon Ffurflen Dreth os bydd CThEF yn gofyn i chi wneud hynny.
Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu llog a chosb os na fyddwch yn cyflwyno a thalu mewn pryd.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Anfon eich Ffurflen Dreth
Gallwch gyflwyno’ch Ffurflen Dreth Hunanasesiad ar-lein.
Os oes angen ffurflen bapur arnoch, gallwch wneud y canlynol:
Dyddiadau cau
Anfonwch eich Ffurflen Dreth erbyn y dyddiad cau.
Mae’n rhaid i chi roi gwybod i CThEF erbyn 5 Hydref os oes angen i chi lenwi Ffurflen Dreth ac nid ydych wedi anfon un o’r blaen. Os na fyddwch yn gwneud hynny, gellir codi dirwy arnoch.
Gallwch roi gwybod i CThEF drwy gofrestru ar gyfer Hunanasesiad. Gwiriwch sut i gofrestru ar gyfer Hunanasesiad.
Llenwi’ch Ffurflen Dreth
Mae angen i chi gadw cofnodion (yn agor tudalen Saesneg) (er enghraifft cyfriflenni banc neu dderbynebau) fel eich bod yn gallu llenwi’ch Ffurflen Dreth yn gywir.
Gallwch gael help i lenwi’ch Ffurflen Dreth.
Talu’ch bil
Bydd CThEF yn cyfrifo’r hyn sydd arnoch yn seiliedig ar yr hyn yr ydych yn rhoi gwybod amdano.
Talwch eich bil Hunanasesiad erbyn 31 Ionawr.
Bydd faint o dreth a dalwch yn dibynnu ar eich haen Treth Incwm. Mae cyfradd wahanol ar gyfer Treth Enillion Cyfalaf os oes angen i chi ei thalu, er enghraifft os ydych yn gwerthu cyfranddaliadau neu ail gartref.
2. Pwy sy’n gorfod anfon Ffurflen Dreth
Mae’n rhaid i chi anfon Ffurflen Dreth os, yn ystod y flwyddyn dreth ddiwethaf (6 Ebrill i 5 Ebrill), roedd unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol:
- roeddech yn hunangyflogedig fel ‘unig fasnachwr� ac wedi ennill mwy na £1,000 (cyn tynnu unrhyw beth y gallwch hawlio rhyddhad treth arno)
- roeddech yn bartner mewn partneriaeth fusnes
- roedd yn rhaid i chi dalu Treth Enillion Cyfalaf pan wnaethoch werthu, neu ‘gael gwared ar�, rhywbeth a wnaeth gynyddu mewn gwerth
- roedd yn rhaid i chi dalu’r Tâl Treth Budd-dal Plant Incwm Uchel
Efallai y bydd hefyd angen i chi anfon Ffurflen Dreth os oes gennych unrhyw incwm sydd heb ei drethu, megis:
- arian o roi eiddo ar osod
- cildyrnau a chomisiwn
- incwm o gynilion, buddsoddiadau a difidendau
- incwm tramor
Gwirio a oes angen i chi anfon Ffurflen Dreth
Gallwch wirio a oes angen i chi anfon Ffurflen Dreth os nad ydych yn siŵr.
Mae’n rhaid i chi roi gwybod i CThEF erbyn 5 Hydref os oes angen i chi lenwi Ffurflen Dreth ac nid ydych wedi anfon un o’r blaen. Gallwch roi gwybod i CThEF drwy gofrestru ar gyfer Hunanasesiad.
Rhesymau eraill dros anfon Ffurflen Dreth
Gallwch ddewis llenwi Ffurflen Dreth er mwyn:
- hawlio rhai rhyddhadau Treth Incwm
- profi eich bod yn hunangyflogedig, er enghraifft i hawlio Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth neu Lwfans Mamolaeth
- talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol
3. Cofrestru ar gyfer Hunanasesiad
Mae’n rhaid i chi gofrestru ar gyfer Hunanasesiad erbyn 5 Hydref os oes angen i chi lenwi Ffurflen Dreth ac nid ydych wedi anfon un o’r blaen.Ìý
Gwiriwch sut i gofrestru ar gyfer Hunanasesiad.Ìý
Os yw’r broses Hunanasesiad yn newydd i chi, bydd angen i chi gadw cofnodion (yn agor tudalen Saesneg) (er enghraifft cyfriflenni banc neu dderbynebau) er mwyn i chi allu llenwi’ch Ffurflen Dreth yn gywir.Ìý
Paratoi ar gyfer eich bil trethÌý
Bydd angen i chi dalu eich bil treth erbyn 31 Ionawr.Ìý
I baratoi, unwaith eich bod wedi cofrestru, gallwch wneud y canlynol:
- amcangyfrif faint o dreth efallai y bydd yn rhaid i chi ei thaluÌý
- sefydlu taliadau wythnosol ²Ô±ð³Ü‵µ fisol i’ch helpu i gyllidebu ar gyfer eich bilÌý
- anfon eich Ffurflen Dreth unrhyw adeg ar ôl 5 Ebrill - wrth wneud hyn yn gynnar, cewch wybod beth yw’r swm sydd arnoch
4. Anfon Ffurflen Dreth
Gallwch anfon Ffurflen Dreth drwy wneud y naill neu’r llall o’r canlynol:
-
cyflwyno Ffurflen Dreth ar-leinÌýÌý
-
anfon Ffurflen Dreth bapurÌý
Gallwch gael help i lenwi’ch Ffurflen Dreth.Ìý
Pryd i anfon eich Ffurflen DrethÌý
Gwiriwch ddyddiad cau ar gyfer cyflwyno. Mae’r dyddiad cau am anfon Ffurflen Dreth bapur cyn y dyddiad cau ar gyfer Ffurflen Dreth ar-lein.Ìý
Gallwch anfon eich Ffurflen Dreth unrhyw bryd ar ôl 5 Ebrill. Trwy anfon y Ffurflen Dreth yn gynt gallwch wneud y canlynol:Ìý
-
cyfrifo’r hyn sydd arnochÌý
-
cyllidebu - os ydych am wneud taliadau wythnosol neu fisolÌý
-
cael amser i dalu’ch bil erbyn 31 IonawrÌý
-
trefnu cynllun talu, os nad ydych yn credu y gallwch dalu mewn pryd
Cyflwyno Ffurflen Dreth ar-leinÌýÌý
Gallwch gyflwyno’ch Ffurflen Dreth Hunanasesiad ar-lein.
Anfon Ffurflen Dreth bapurÌý
Os oes angen copi papur o’r brif Ffurflen Dreth Hunanasesiad arnoch, gallwch wneud y canlynol:Ìý
Os oes angen i chi anfon Ffurflen Dreth ar gyfer ymddiriedolwyr cynllun pensiwn cofrestredig, bydd yn rhaid i chi lawrlwytho ffurflen SA970 (yn agor tudalen Saesneg).Ìý
Gallwch lawrlwytho pob ffurflen a thudalen atodol arall.Ìý
Ar ôl anfon eich Ffurflen Dreth papur, gallwch wirio pryd y gallwch ddisgwyl ateb gan CThEF.Ìý
Defnyddio meddalwedd fasnachol i anfon Ffurflen DrethÌý
Gallwch ddefnyddio meddalwedd fasnachol:Ìý
-
ar gyfer partneriaethÌý
-
ar gyfer ymddiriedolaeth ac ystâdÌý
-
os ydych yn cael incwm o ymddiriedolaethÌý
-
os oeddech yn byw dramor (yn agor tudalen Saesneg) fel unigolyn dibreswylÌý
-
os ydych yn un o danysgrifenwyr Lloyd’sÌý
-
os ydych yn Weinidog yr EfengylÌý
-
i roi gwybod am elw a wnaed wrth werthu neu waredu mwy nag un ased (‘enillion trethadwyâ€�)Ìý
Dod o hyd i ddarparwr meddalwedd fasnachol (yn agor tudalen Saesneg).
5. Os nad oes angen i chi anfon Ffurflen Dreth mwyach
Mae’n rhaid i chi roi gwybod i CThEF cyn gynted â phosibl os ydych o’r farn nad oes angen i chi anfon Ffurflen Dreth mwyach.
Bydd angen amser ar CThEF i adolygu’ch cais cyn y dyddiad cau ar gyfer Hunanasesiad, sef 31 Ionawr.
Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu cosb os nad ydych yn rhoi gwybod i CThEF yn ddigon cynnar.
Pan nad oes angen i chi anfon Ffurflen Dreth mwyach
Mae’n bosibl na fydd angen i chi anfon Ffurflen Dreth mwyach oherwydd, er enghraifft:
- rydych wedi rhoi’r gorau i fod yn hunangyflogedig
- nid ydych yn rhoi eiddo ar osod mwyach
- nid ydych yn talu’r Tâl Treth Budd-dal Plant Incwm Uchel mwyach
Gallwch wirio a oes angen i chi anfon Ffurflen Dreth os nad ydych yn siŵr.
Sut i roi gwybod i CThEF
Mewngofnodwch i’ch cyfrif a er mwyn:
- cau eich cyfrif Hunanasesiad
- gofyn am gael eich tynnu o Hunanasesiad ar gyfer blwyddyn dreth benodol
Bydd angen i chi ddarparu eich rhif Yswiriant Gwladol ²¹â€™c³ó rhif UTR.
Os nad ydych yn gallu llenwi’r ffurflen ar-lein, gallwch hefyd gysylltu â CThEF dros y ffôn neu drwy’r post.
Os nad ydych yn hunangyflogedig mwyach
Mae’n rhaid i chi hefyd roi gwybod i CThEF eich bod wedi rhoi’r gorau i fod yn hunangyflogedig.
Os ydych eisoes wedi rhoi gwybod i CThEF fod eich hunangyflogaeth wedi dod i ben, mae’n bosibl y bydd CThEF yn dal i ofyn i chi anfon Ffurflenni Treth ar gyfer y blynyddoedd i ddod.
Os ydych wedi gwirio ac nad oes angen i chi anfon Ffurflen Dreth, bydd angen i chi roi gwybod i CThEF.
Yr hyn sy’n digwydd nesaf
Gallwch olrhain cynnydd eich ffurflen ar eich .
Bydd CThEF yn ysgrifennu atoch i gadarnhau a oes angen i chi anfon Ffurflen Dreth.
6. Dyddiadau cau
Mae’n rhaid i’ch Ffurflen Dreth ac unrhyw arian sydd arnoch ddod i law Cyllid a Thollau EF (CThEF) erbyn y dyddiad cau.
Dechreuodd y flwyddyn dreth ddiwethaf ar 6 Ebrill 2024 a daeth i ben ar 5 Ebrill 2025.
Dyddiad cau ar gyfer rhoi gwybod i CThEF a oes angen i chi lenwi Ffurflen Dreth
Mae’n rhaid i chi roi gwybod i CThEF erbyn 5 Hydref os oes angen i chi lenwi Ffurflen Dreth ac nid ydych wedi anfon un o’r blaen.
Gallwch roi gwybod i CThEF drwy gofrestru ar gyfer Hunanasesiad.
Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno Ffurflen Dreth ar bapur
Os ydych yn anfon Ffurflen Dreth ar bapur, mae’n rhaid i chi ei chyflwyno erbyn hanner nos ar 31 Hydref 2025.
Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno Ffurflen Dreth ar-lein
Os ydych yn anfon Ffurflen Dreth ar-lein, mae’n rhaid i chi ei chyflwyno erbyn hanner nos ar 31 Ionawr 2026.
Os ydych am i CThEF gasglu’r dreth sydd arnoch yn awtomatig o’ch cyflog ²¹â€™c³ó pensiwn, cyflwynwch eich Ffurflen Dreth ar-lein erbyn 30 Rhagfyr. Ewch ati i gael gwybod a ydych yn gymwys i dalu drwy’r dull hwn.
Dyddiad cau ar gyfer talu treth sydd arnoch
Bydd angen i chi dalu’r dreth sydd arnoch erbyn canol nos ar 31 Ionawr 2026.
Fel arfer, mae ail ddyddiad cau ar gyfer talu, sef 31 Gorffennaf, os ydych yn gwneud taliadau ymlaen llaw tuag at eich bil (gelwir y rhain yn �daliadau ar gyfrif�).
Fel arfer, byddwch yn talu cosb os ydych yn hwyr. Gallwch apelio yn erbyn cosb os oes gennych esgus rhesymol.
Er mwyn osgoi cosb am dalu’n hwyr, gallwch ‘amcangyfrif eich bil treth Hunanasesiadâ€� cyn anfon eich Ffurflen Dreth er mwyn:Ìý
- rhoi syniad i chi o faint mae eich bil yn debygol o fodÌý
- caniatáu i chi gyllidebu a thalu mewn pryd
Os nad ydych yn gwybod eich elw ar gyfer y flwyddyn dreth gyfan
Mae’n bosibl na fyddwch yn gwybod beth fydd eich elw ar gyfer y flwyddyn dreth gyfan, er enghraifft:
- os yw’ch ‘cyfnod cyfrifyddu� yn dod i ben ar amser gwahanol i ddiwedd y flwyddyn dreth
- os yw’ch ‘cyfnod cyfrifyddu� yn wahanol i’ch ‘cyfnod sail�
- os ydych chi’n aros am brisiad
‘Cyfnod cyfrifyddu� yw’r cyfnod y mae cyfrifon busnes yn cael eu cau (12 mis fel arfer) ac yn dod â’r flwyddyn busnes i ben. Gall hyn fod yn wahanol i’r cyfnod a ddefnyddir i nodi’r elw trethadwy mewn unrhyw flwyddyn dreth benodol (a elwir hefyd yn ‘gyfnod sail�).
Os nad ydych yn gwybod beth bydd eich elw ar gyfer y flwyddyn dreth gyfan cyn y dyddiad cau, dylech gyfrifo beth mae’n debygol o fod (a elwir yn ‘ffigurau dros dro�) a’u cynnwys.
Dylech roi gwybod i CThEF eich bod wedi defnyddio ffigurau dros dro pan fyddwch yn cyflwyno’ch Ffurflen Dreth.
Pan fyddwch yn darganfod beth oedd eich elw ar gyfer y flwyddyn dreth gyfan, bydd angen i chi newid eich Ffurflen Dreth. Mae gennych 12 mis o’r dyddiad cau ar gyfer Hunanasesiad i wneud y newidiadau hyn.
Os oes rhagor o dreth yn ddyledus, bydd angen i chi dalu llog ar y gwahaniaeth rhwng eich amcangyfrifon a’r ffigurau terfynol. Bydd y llog yn cael ei gyfrifo o’r dyddiad dyledus gwreiddiol ar gyfer talu. Os ydych wedi talu gormod o dreth, bydd llog yn cael ei dalu i chi.
Pan fo’r dyddiad cau’n wahanol
Mae’n rhaid i Ffurflen Dreth bapur gyrraedd CThEF erbyn 31 Ionawr os ydych yn ymddiriedolwr cynllun pensiwn cofrestredig ²Ô±ð³Ü‵µ gwmni dibreswyl. Ni allwch anfon Ffurflen Dreth ar-lein.
Efallai y bydd CThEF hefyd yn anfon e-bost, ²Ô±ð³Ü‵µ ysgrifennu atoch, gan roi dyddiad cau gwahanol i chi os oedd CThEF yn hwyr yn anfon eich Ffurflen Dreth atoch.
Ffurflenni Treth Partneriaeth os oes gennych gwmni fel partner
Os yw dyddiad cyfrifyddu’ch cwmni’n syrthio rhwng 1 Chwefror a 5 Ebrill a bod un o’ch partneriaid yn gwmni cyfyngedig, mae’r dyddiadau cau ar gyfer y canlynol fel a ganlyn:
- Ffurflenni Treth ar-lein � 12 mis ar ôl y dyddiad cyfrifyddu
- Ffurflenni Treth papur � 9 mis ar ôl y dyddiad cyfrifyddu
Blwyddyn dreth 2023 i 2024 a chynharach
Mae’r dyddiad cau ar gyfer Hunanasesiad ar gyfer y blynyddoedd treth hyn wedi mynd heibio. Dylech anfon eich Ffurflen Dreth neu’ch taliad cyn gynted â phosibl � bydd yn rhaid i chi dalu cosb.
7. Cosbau
Byddwch yn cael cosb os oes angen i chi lenwi Ffurflen Dreth a bod y canlynol yn wir:
-
rydych yn anfon Ffurflen Dreth yn hwyrÌý
-
rydych yn talu’ch bil treth yn hwyrÌý
Gallwch amcangyfrif eich cosb (yn agor tudalen Saesneg) am Ffurflenni Treth a thaliadau Hunanasesiad hwyr.Ìý
Os byddwch yn cofrestru ar gyfer Hunanasesiad yn hwyrÌý
Os ydych yn cofrestru ar ôl 5 Hydref ac nad ydych yn talu’ch holl fil treth erbyn 31 Ionawr, byddwch yn cael cosb ‘methu â hysbysuâ€�.ÌýÌý
Mae’r gosb hon yn seiliedig ar y swm sydd ar ôl i’w dalu a byddwch yn ei gael cyn pen 12 mis ar ôl i CThEF gael eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad.Ìý
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am gosbau ‘methu â hysbysu�.
Os byddwch yn cyflwyno’ch Ffurflen Dreth yn hwyrÌý
Byddwch yn cael y cosbau canlynol am gyflwyno’n hwyr:Ìý
-
cosb benodol o £100Ìý
-
ar ôl 3 mis, cosbau ychwanegol o £10 y dydd, hyd at uchafswm o £900Ìý
-
ar ôl 6 mis, cosb bellach sef 5% o’r dreth sy’n ddyledus neu £300, p’un bynnag sydd fwyafÌý
-
ar ôl 12 mis, cosb arall sef 5% neu £300, p’un bynnag sydd fwyafÌý
Er mwyn osgoi hyn, anfonwch eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad cyn gynted â phosibl.Ìý
Bydd pob partner yn cael cosb os yw Ffurflen Dreth Partneriaeth yn hwyr.
Os byddwch yn talu’ch treth yn hwyrÌý
Byddwch yn cael cosbau o 5% o’r dreth heb ei thalu ar yr adegau canlynol:Ìý
-
30 diwrnodÌý
-
6 misÌý
-
12 misÌý
Byddwn hefyd yn codi llog ar y swm sy’n ddyledus. Er mwyn osgoi hyn, talwch eich bil treth Hunanasesiad cyn gynted â phosibl.Ìý
Dysgwch beth sy’n digwydd os nad ydych yn ymateb i CThEF ²Ô±ð³Ü‵µ gwrthod talu’r hyn sydd arnoch.Ìý
Talu cosbÌý
Mae’n rhaid i chi dalu cyn pen 30 diwrnod i ddyddiad yr hysbysiad o gosb. Cael gwybod sut i dalu cosb.
Os ydych yn anghytuno â chosbÌý
Os oes gennych esgus rhesymol, gallwch apelio yn erbyn cosb (yn agor tudalen Saesneg).
8. Os oes angen i chi newid eich Ffurflen Dreth
Gallwch wneud newid i Ffurflen Dreth ar ôl i chi ei chyflwyno, er enghraifft, am eich bod wedi gwneud camgymeriad.
Caiff eich bil ei ddiweddaru yn seiliedig ar yr hyn yr ydych yn rhoi gwybod amdano. Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu mwy o dreth, neu mae’n bosibl y byddwch yn gallu hawlio ad-daliad.
Diweddaru’ch Ffurflen Dreth
Gallwch gywiro Ffurflen Dreth cyn pen 12 mis i’r dyddiad cau ar gyfer Hunanasesiad, a hynny ar-lein neu drwy anfon ffurflen bapur arall.
Enghraifft
Ar gyfer blwyddyn dreth 2022 i 2023, fel arfer bydd angen i chi newid eich Ffurflen Dreth erbyn 31 Ionawr 2025.
Os byddwch yn methu’r dyddiad cau, neu os bydd angen i chi wneud newid i Ffurflen Dreth ar gyfer blwyddyn dreth gynharach, bydd angen i chi ysgrifennu at CThEF.
Ffurflenni Treth ar-lein
Mae’n rhaid i chi aros 3 diwrnod (72 awr) ar ôl cyflwyno’ch Ffurflen Dreth cyn ei diweddaru.
-
.
-
O ‘Eich cyfrif treth�, dewiswch ‘Cyfrif Hunanasesiad�.
-
Dewiswch ‘Rhagor o fanylion Hunanasesiad�.
-
Dewiswch ‘Ar gip� o’r ddewislen ar y chwith.
-
Dewiswch ‘Opsiynau Ffurflen Dreth�.
-
Dewiswch y flwyddyn dreth ar gyfer y Ffurflen Dreth rydych am ei diwygio.
-
Ewch i mewn i’r Ffurflen Dreth, ei chywiro a’i hailgyflwyno.
Ffurflenni Treth papur
Ar gyfer y brif Ffurflen Dreth Hunanasesiad, gallwch wneud y canlynol:
Gallwch lawrlwytho pob ffurflen a thudalen atodol arall.
Yna, bydd angen i chi anfon y tudalennau wedi’u cywiro i’r cyfeiriad ar eich gwaith papur Hunanasesiad.
Dylech ysgrifennu ‘diwygiad� ar bob tudalen, a chynnwys eich enw a Chyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR) � mae hwn i’w weld ar Ffurflenni Treth blaenorol neu lythyrau gan CThEF.
Os na allwch ddod o hyd i’r cyfeiriad, gallwch anfon eich tudalennau wedi’u cywiro i:
Hunanasesiad
Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF
HMRC
BX9 1ST
Os gwnaethoch ddefnyddio meddalwedd fasnachol
Cysylltwch â’r darparwr meddalwedd (yn agor tudalen Saesneg) i gael help i gywiro’ch Ffurflen Dreth. Cysylltwch â CThEF os nad yw’ch meddalwedd yn gallu gwneud cywiriadau.
Newidiadau i’ch bil
Byddwch yn gweld eich bil diwygiedig yn syth os gwnaethoch ddiweddaru’ch Ffurflen Dreth ar-lein. Cyn pen 3 diwrnod, bydd eich datganiad hefyd yn dangos y canlynol:
-
yr hyn sy’n wahanol i’r hen un, fel y gallwch weld a oes arnoch fwy neu lai o dreth
-
unrhyw log
Er mwyn bwrw golwg dros hyn, a dewiswch ‘Bwrw golwg dros ddatganiadau� oʼr ddewislen ar y chwith.
Os oes treth yn ddyledus i chi
Mae’n bosibl y byddwch yn gallu hawlio ad-daliad treth.
Os oes angen i chi dalu mwy o dreth
Bydd eich bil sydd wedi’i ddiweddaru’n dangos y canlynol hefyd:
-
y dyddiad cau ar gyfer talu
-
yr effaith y mae’r diweddariad hwn wedi’i gael ar unrhyw daliadau ar gyfrif y mae’n rhaid i chi eu gwneud
Os gwnaethoch anfon Ffurflen Dreth bapur wedi’i diweddaru
Bydd CThEF yn anfon bil wedi’i ddiweddaru atoch. Gallwch wirio pryd y gallwch ddisgwyl ateb gan CThEF.
Bydd CThEF yn talu unrhyw ad-daliad yn uniongyrchol i’ch cyfrif banc, cyn belled â’ch bod wedi rhoi’ch manylion banc ar eich Ffurflen Dreth.
Os ydych wedi methu’r dyddiad cau ar gyfer newid eich Ffurflen Dreth
Mae’n rhaid i chi ysgrifennu at CThEF os oes angen i chi wneud newidiadau i’ch Ffurflen Dreth dros 12 mis ar ôl y dyddiad cau ar gyfer Hunanasesiad. Mae hyn yn cynnwys gwneud newid i flwyddyn dreth gynharach.
Bydd angen i chi hefyd ysgrifennu llythyr at CThEF i wneud y canlynol:
-
rhoi gwybod am incwm na wnaethoch ei gynnwys yn eich Ffurflen Dreth
-
hawlio rhyddhad gordaliad (os ydych o’r farn eich bod wedi gordalu treth)
Gallwch hawlio rhyddhad gordaliad hyd at 4 blynedd ar ôl diwedd y flwyddyn dreth y mae’n berthnasol iddi.
Yr hyn i’w gynnwys
Mae’n rhaid i chi gynnwys:
-
y flwyddyn dreth yr ydych yn ei chywiro
-
pam yr ydych o’r farn eich bod wedi talu gormod o dreth, neu heb dalu digon
-
faint yr ydych yn credu eich bod wedi’i ordalu neu ei dandalu
-
eich llofnod (ni all neb arall lofnodi ar eich rhan)
Os ydych yn gwneud hawliad am ryddhad gordaliad, mae’n rhaid i chi gynnwys y canlynol yn eich llythyr hefyd:
-
y ffaith eich bod yn gwneud hawliad am ryddhad gordaliad
-
a ydych wedi gwneud apêl ar gyfer yr un taliad o’r blaen
-
datganiad wedi’i lofnodi sy’n nodi bod y manylion yr ydych wedi’u rhoi ‘yn gywir ac yn gyflawn hyd eithaf eich gwybodaeth ²¹â€™c³ó credâ€�
Hefyd, mae angen i chi gadw tystiolaeth eich bod wedi talu treth drwy Hunanasesiad ar gyfer y cyfnod perthnasol, gan y gallai CThEF ofyn am hon yn nes ymlaen.
Os na fyddwch yn cynnwys yr holl wybodaeth hon, bydd eich hawliad yn cael ei wrthod.
Yn eich llythyr, gallwch hefyd roi gwybod i CThEF sut yr hoffech gael eich ad-dalu.
9. Hawlio ad-daliad treth
Mae’n bosibl y byddwch yn gallu cael ad-daliad treth os ydych wedi talu gormod o dreth. Gallwch wirio sut i hawlio ad-daliad treth yn lle.
Mae’n bosibl na chewch ad-daliad os oes gennych dreth sy’n ddyledus yn ystod y 45 diwrnod nesaf (er enghraifft ar gyfer taliad ar gyfrif). Yn hytrach, caiff yr arian ei ddidynnu oddi wrth y dreth sydd arnoch.
Os ydych eisoes wedi hawlio ad-daliad treth
Gallwch wirio pryd y gallwch ddisgwyl ateb gan CThEF ynghylch eich hawliad.
Gall statws eich ad-daliad ddangos fel ‘wrthi’n aros� yn eich cyfrif treth ar-lein. Mae hyn yn golygu bod yr ad-daliad wedi’i greu ond mae angen ei gymeradwyo a’i dalu o hyd.
10. Sut i gael help
Os oes angen help arnoch gyda Hunanasesiad, gallwch wneud y canlynol:
-
penodi rhywun i lenwi ac anfon eich Ffurflen Dreth, er enghraifft cyfrifydd, ffrind neu berthynas
- gwylio fideos ac ymuno â gweminarau (yn agor tudalen Saesneg)
- cysylltu â Chyllid a Thollau EF (CThEF) ar gyfer ymholiadau cyffredinol ynghylch Hunanasesiad
- cael help technegol gyd²¹â€™c³ó cyfrif ar-lein
Help i lenwi’ch Ffurflen Dreth
Mae arweiniad cychwynnol ar 188ÌåÓý ynghylch y canlynol:
- Treth Enillion Cyfalaf os ydych wedi gwerthu pethau penodol fel eiddo neu gyfranddaliadau
- treuliau os ydych yn gyflogai ²Ô±ð³Ü‵µ hunangyflogedig
- Taliad Budd-dal Plant Incwm uchel os yw’ch incwm dros y trothwy
- treth ar incwm o roi eiddo ar osod
- treth ar log ar gynilion
- treth ar incwm o dramor (yn agor tudalen Saesneg) � neu ar eich incwm o’r DU os ydych yn byw dramor (yn agor tudalen Saesneg)
Nodiadau arweiniol a thaflenni cymorth
Gallwch hefyd ddarllen arweiniad yn y canlynol:
- nodiadau gyfer pob adran o’r Ffurflen Dreth, er enghraifft â€�Nodiadau eiddo yn y DUâ€� os ydych yn llenwi’r adran honnoÌý
- taflenni cymorth Hunanasesiad CThEF
11. Ffurflenni Treth ar gyfer rhywun sydd wedi marw
Os mai chi yw’r ‘cynrychiolydd personol� (ysgutor neu weinyddwr) ar gyfer rhywun sydd wedi marw, mae’n bosibl y bydd angen i chi lenwi:
- Ffurflen Dreth Hunanasesiad ar gyfer incwm roedd y person wedi’i ennill cyn iddo farw
- Ffurflen Dreth Hunanasesiad ar wahân ar gyfer incwm yr ystâd a gynhyrchir ar ôl i’r person farw
Mae cynrychiolydd personol yn gyfrifol yn gyfreithiol am ddelio ag arian, eiddo a meddiannau’r ymadawedig (ei ‘ystâd�).
Os nad ydych eisoes wedi rhoi gwybod i CThEF am farwolaeth, mae’n rhaid i chi wneud hyn cyn gynted â phosibl. Defnyddiwch y gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith i roi gwybod i CThEF a sefydliadau eraill y llywodraeth am y farwolaeth.
Ffurflen Dreth ar gyfer incwm roedd y person wedi’i ennill cyn iddo farw
Bydd CThEF yn rhoi gwybod i chi a oes angen i chi lenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad ar ran yr ymadawedig. Os byddwch yn gwneud hynny, bydd yn anfon Ffurflen Dreth i’w llenwi a’i dychwelyd.
Fel arfer, bydd angen manylion cyfrifon banc a chynilion yr ymadawedig arnoch � mae’r canlynol yn enghreifftiau:
- cyfriflenni banc
- paslyfrau cymdeithas adeiladu
- talebau difidend
- bondiau neu dystysgrifau Cynilion Cenedlaethol
Os oedd yr ymadawedig yn gyflogedig, fel arfer bydd angen y canlynol arnoch:
- P45 gan ei gyflogwr - os yw’r Ffurflen Dreth ar gyfer y flwyddyn dreth y bu farw
- P60 gan ei gyflogwr - os yw’r Ffurflen Dreth ar gyfer blwyddyn dreth cyn y flwyddyn dreth y bu farw
- manylion unrhyw dreuliau a dalwyd gan y cyflogwr - er enghraifft ceir cwmni, yswiriant iechyd, treuliau teithio neu ofal plant
Os oedd yr ymadawedig yn cael pensiwn, fel arfer bydd angen y canlynol arnoch:
- datganiad terfynol gan ei ddarparwr pensiwn - os yw’r Ffurflen Dreth ar gyfer y flwyddyn dreth y bu farw
- tystysgrif diwedd blwyddyn gan ei ddarparwr pensiwn - os yw’r Ffurflen Dreth ar gyfer blwyddyn dreth cyn y flwyddyn dreth y bu farw
- cadarnhad ynghylch unrhyw Bensiwn y Wladwriaeth
Bydd hefyd angen manylion arnoch o unrhyw incwm arall a oedd gan yr ymadawedig, er enghraifft os oedd yr ymadawedig yn gosod eiddo ²Ô±ð³Ü‵µ rhedeg ei fusnes ei hun.
Cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF os oes angen help arnoch i lenwi Ffurflen Dreth ar gyfer rhywun sydd wedi marw, neu os na allwch ddod o hyd i’w gofnodion.
Anfon y Ffurflen Dreth
Anfonwch y Ffurflen Dreth Hunanasesiad wedi’i llenwi drwy’r post.
Mae’n rhaid i’r Ffurflen Dreth gyrraedd CThEF erbyn y dyddiad a roddir yn y llythyr a gawsoch ynghyd â’r ffurflen.
Gallwch gyflogi gweithiwr proffesiynol (fel cyfrifydd) i’ch helpu i gyflwyno Ffurflen Dreth ar ran yr ymadawedig.
Ffurflenni Treth ar gyfer incwm yr ystâd a gynhyrchir ar ôl i’r person farw
Os yw’r ystâd yn cynhyrchu unrhyw incwm newydd ar ôl y farwolaeth (yn agor tudalen Saesneg), mae’n bosibl y bydd angen i chi wneud y ddau beth canlynol:
- cofrestru gyda CThEF
- anfon Ffurflen Dreth ar wahân ar ran yr ystâd
Mae’n rhaid gwirio a oes angen i chi roi gwybod i CThEF am incwm yr ystâd (yn agor tudalen Saesneg).