Ffurflenni Treth Hunanasesiad
Anfon Ffurflen Dreth
Gallwch anfon Ffurflen Dreth drwy wneud y naill neu’r llall o’r canlynol:Ìý
-
cyflwyno Ffurflen Dreth ar-leinÌýÌý
-
anfon Ffurflen Dreth bapurÌý
Gallwch gael help i lenwi’ch Ffurflen Dreth.Ìý
Pryd i anfon eich Ffurflen DrethÌý
Gwiriwch ddyddiad cau ar gyfer cyflwyno. Mae’r dyddiad cau am anfon Ffurflen Dreth bapur cyn y dyddiad cau ar gyfer Ffurflen Dreth ar-lein.Ìý
Gallwch anfon eich Ffurflen Dreth unrhyw bryd ar ôl 5 Ebrill. Trwy anfon y Ffurflen Dreth yn gynt gallwch wneud y canlynol:Ìý
-
cyfrifo’r hyn sydd arnochÌý
-
cyllidebu - os ydych am wneud taliadau wythnosol neu fisolÌý
-
cael amser i dalu’ch bil erbyn 31 IonawrÌý
-
trefnu cynllun talu, os nad ydych yn credu y gallwch dalu mewn pryd
Os nad ydych yn gwybod eich elw ar gyfer y flwyddyn dreth gyfanÌýÌý
Mae’n bosibl na fyddwch yn gwybod beth fydd eich elw ar gyfer y flwyddyn dreth gyfan, er enghraifft:ÌýÌý
-
os yw’ch ‘cyfnod cyfrifydduâ€� yn dod i ben ar amser gwahanol i ddiwedd y flwyddyn drethÌý
-
os yw’ch ‘cyfnod cyfrifyddu� yn wahanol i’ch ‘cyfnod sail’�
-
os ydych chi’n aros am brisiadÌý
‘Cyfnod cyfrifydduâ€� yw’r cyfnod y mae cyfrifon busnes yn cael eu cau (12 mis fel arfer) ac yn dod â’r flwyddyn busnes i ben. Gall hyn fod yn wahanol i’r cyfnod a ddefnyddir i nodi’r elw trethadwy mewn unrhyw flwyddyn dreth benodol (a elwir hefyd yn ‘gyfnod sailâ€�).Ìý
Os nad ydych yn gwybod beth bydd eich elw ar gyfer y flwyddyn dreth gyfan cyn y dyddiad cau, dylech gyfrifo beth mae’n debygol o fod (a elwir yn ‘ffigurau dros droâ€�) a’u cynnwys.Ìý
Dylech roi gwybod i CThEF eich bod wedi defnyddio ffigurau dros dro pan fyddwch yn cyflwyno’ch Ffurflen Dreth.Ìý
Pan fyddwch yn darganfod beth oedd eich elw ar gyfer y flwyddyn dreth gyfan, bydd angen i chi newid eich Ffurflen Dreth. Mae gennych 12 mis o’r dyddiad cau ar gyfer Hunanasesiad i wneud y newidiadau hyn.Ìý
Os oes rhagor o dreth yn ddyledus, bydd angen i chi dalu llog ar y gwahaniaeth rhwng eich amcangyfrifon a’r ffigurau terfynol. Bydd y llog yn cael ei gyfrifo o’r dyddiad dyledus gwreiddiol ar gyfer talu. Os ydych wedi talu gormod o dreth, bydd llog yn cael ei dalu i chi.Ìý
Cyflwyno Ffurflen Dreth ar-leinÌýÌý
Gallwch gyflwyno’ch Ffurflen Dreth Hunanasesiad ar-lein.
Anfon Ffurflen Dreth bapurÌý
Os oes angen copi papur o’r brif Ffurflen Dreth Hunanasesiad arnoch, gallwch wneud y canlynol:Ìý
Os oes angen i chi anfon Ffurflen Dreth ar gyfer ymddiriedolwyr cynllun pensiwn cofrestredig, bydd yn rhaid i chi lawrlwytho ffurflen SA970 (yn agor tudalen Saesneg).Ìý
Gallwch lawrlwytho pob ffurflen a thudalen atodol arall.Ìý
Ar ôl anfon eich Ffurflen Dreth papur, gallwch wirio pryd y gallwch ddisgwyl ateb gan CThEF.Ìý
Defnyddio meddalwedd fasnachol i anfon Ffurflen DrethÌý
Gallwch ddefnyddio meddalwedd fasnachol:Ìý
-
ar gyfer partneriaethÌý
-
ar gyfer ymddiriedolaeth ac ystâdÌý
-
os ydych yn cael incwm o ymddiriedolaethÌý
-
os oeddech yn byw dramor (yn agor tudalen Saesneg) fel unigolyn dibreswylÌý
-
os ydych yn un o danysgrifenwyr Lloyd’sÌý
-
os ydych yn Weinidog yr EfengylÌý
-
i roi gwybod am elw a wnaed wrth werthu neu waredu mwy nag un ased (‘enillion trethadwyâ€�)Ìý
Dod o hyd i ddarparwr meddalwedd fasnachol (yn agor tudalen Saesneg).