Ffurflenni Treth Hunanasesiad
Os nad oes angen i chi anfon Ffurflen Dreth mwyach
Mae’n rhaid i chi roi gwybod i CThEF cyn gynted â phosibl os ydych o’r farn nad oes angen i chi anfon Ffurflen Dreth mwyach.
Bydd angen amser ar CThEF i adolygu’ch cais cyn y dyddiad cau ar gyfer Hunanasesiad, sef 31 Ionawr.
Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu cosb os nad ydych yn rhoi gwybod i CThEF yn ddigon cynnar.
Pan nad oes angen i chi anfon Ffurflen Dreth mwyach
Mae’n bosibl na fydd angen i chi anfon Ffurflen Dreth mwyach oherwydd, er enghraifft:
- rydych wedi rhoi’r gorau i fod yn hunangyflogedig
- nid ydych yn rhoi eiddo ar osod mwyach
- nid ydych yn talu’r Tâl Treth Budd-dal Plant Incwm Uchel mwyach
Gallwch wirio a oes angen i chi anfon Ffurflen Dreth os nad ydych yn siŵr.
Sut i roi gwybod i CThEF
Mewngofnodwch i’ch cyfrif a er mwyn:
- cau eich cyfrif Hunanasesiad
- gofyn am gael eich tynnu o Hunanasesiad ar gyfer blwyddyn dreth benodol
Bydd angen i chi ddarparu eich rhif Yswiriant Gwladol ²¹â€™c³ó rhif UTR.
Os nad ydych yn gallu llenwi’r ffurflen ar-lein, gallwch hefyd gysylltu â CThEF dros y ffôn neu drwy’r post.
Os nad ydych yn hunangyflogedig mwyach
Mae’n rhaid i chi hefyd roi gwybod i CThEF eich bod wedi rhoi’r gorau i fod yn hunangyflogedig.
Os ydych eisoes wedi rhoi gwybod i CThEF fod eich hunangyflogaeth wedi dod i ben, mae’n bosibl y bydd CThEF yn dal i ofyn i chi anfon Ffurflenni Treth ar gyfer y blynyddoedd i ddod.
Os ydych wedi gwirio ac nad oes angen i chi anfon Ffurflen Dreth, bydd angen i chi roi gwybod i CThEF.
Yr hyn sy’n digwydd nesaf
Gallwch olrhain cynnydd eich ffurflen ar eich .
Bydd CThEF yn ysgrifennu atoch i gadarnhau a oes angen i chi anfon Ffurflen Dreth.