Gweinidog Swyddfa Cymru yn nodi Diwrnod Cofio’r Holocost
Bydd Gweinidog Swyddfa Cymru, y Farwnes Jenny Randerson yn bresennol mewn gwasanaeth coffaol yng Nghaerdydd heddiw (28 Ionawr) i roi teyrnged�

Bydd Gweinidog Swyddfa Cymru, y Farwnes Jenny Randerson yn bresennol mewn gwasanaeth coffaol yng Nghaerdydd heddiw (28 Ionawr) i roi teyrnged i holl ddioddefwyr yr Holocost.
Mae Diwrnod Cofio’r Holocost (27 Ionawr) yn ddigwyddiad cenedlaethol yn benodol i gofio’r bobl a fu farw yn sgil hil-laddiadau ac i anrhydeddu’r rhai hynny sydd wedi goroesi cyfundrefnau casineb ar draws y byd. Y thema ar gyfer gwasanaeth coffa 2013 yw ‘Cymunedau Ynghyd:Codi Pontydd�.
Cynhelir gwasanaeth yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd, ar gyfer Diwrnod Cenedlaethol Cofio’r Holocost yng Nghymru.
Dywedodd y Farwnes Randerson:
“Mae Diwrnod Cofio’r Holocost yn caniatau i ni gofio am ganlyniadau echrydus erledigaeth. Mae’n gyfle i gofio a rhoi teyrnged i’r rheini a ddioddefodd ac a fu farw o ganlyniad i hynny. Mae hefyd yn ein hatgoffa ni o ddewrder y rhai a oroesodd yr hil-laddiadau a pha mor bwysig yw dysgu gwersi o’r digwyddiadau trychinebus yma.
“Mae neges Diwrnod Cofio’r Holocost eleni, ‘Cymunedau Ynghyd: Codi Pontydd� yn un y mae’n rhaid i ni gyd ei chofio a gweithredu arni. Heddiw, gallwn i gyd gymryd y cyfle i bwyso a mesur sut rydyn ni’n byw ein bywydau ac ystyried sut gallwn ni greu cymunedau gwell a chryfach gyda’n gilydd.�