Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru i ymweld 芒 phrosiectau sy鈥檔 ceisio bod ar y rheng flaen ym Margen Ddinesig Rhanbarth Bae Abertawe

Alun Cairns i ymweld 芒 Champws y Bae Prifysgol Abertawe, Harbwr Port Talbot a Chanolfan Arloesi Bae Baglan

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2016 to 2019 May Conservative government

Bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Alun Cairns yn ymweld 芒 phrosiectau arloesol sydd wrth galon chwyldro technoleg Bargen Ddinesig Rhanbarth Bae Abertawe yn nes ymlaen heddiw (11 Ionawr).

Bydd Ysgrifennydd Cymru鈥檔 clywed am ddyfodol dur a sut gall gweithgynhyrchu digidol gynyddu cystadleuaeth a chreu systemau rhwydweithiol yn fyd-eang ar Gampws y Bae Prifysgol Abertawe.

Mae Prifysgol Abertawe, mewn partneriaeth 芒 Chastell-nedd Port Talbot, Tata a phartneriaid masnachol eraill, yn gweithio i sbarduno uchelgais coridor Arloesi Fabian Way ac i ddangos i drigolion Bae Abertawe y cyfleoedd adfywio mae鈥檙 Fargen Ddinesig yn eu cynnig, drwy grwpio tri phrosiect blaengar yn fyd-eang gyda鈥檌 gilydd, gan gynnwys Canolfan Arloesi Dur Genedlaethol y DU a Ffatri Graff y Dyfodol.

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns:

Mae Prifysgol Abertawe鈥檔 arwain yr ymgyrch i sicrhau prosiectau cyffrous y Fargen Ddinesig a fydd yn trawsnewid y rhanbarth, gan greu cyflogaeth o ansawdd uchel a thechnolegau blaengar ar lefel byd.

Mae Llywodraeth y DU yn gweithio鈥檔 galed i annog rhanbarth y Fargen Ddinesig i elwa ar ei enw da fel arweinydd ym maes arloesi, ymchwil a datblygu, ac ynni. Gyda鈥檙 cryfder presennol hwn, mae鈥檔 hanfodol bod yr ardal yn cael ei grymuso i gymryd yr awenau a gwneud penderfyniadau i gefnogi twf economaidd, rhoi hwb i gyflogaeth a denu buddsoddiad ledled y rhanbarth cyfan.

Hefyd bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn ymweld 芒 safle鈥檙 Harbwr ym Mhort Talbot, sy鈥檔 ceisio rhoi hwb i gyflogaeth ym maes ymchwil a datblygu.

Mae鈥檙 hen waith dur a thun segur yn ardal y dociau ym Mhort Talbot yn gartref i Barc Busnes yr Harbwr, lle mae TWI, TATA Steel a Thyssen Krupp. Y gobaith yw y bydd Coleg Castell-nedd Port Talbot yn datblygu campws gwerth 拢28m ar y safle yn 2019.

Bydd Ysgrifennydd Cymru鈥檔 ymweld 芒 Chanolfan Arloesi Bae Baglan hefyd, sy鈥檔 canolbwyntio ar ddatblygu busnesau ym meysydd ynni, arloesi a thechnoleg.

Mae鈥檙 Ganolfan yn gartref i鈥檙 Prosiect SPECIFIC, consortiwm academaidd a diwydiannol o dan arweiniad Prifysgol Abertawe gyda phartneriaid diwydiannol strategol, Tata Steel, BASF ac NSG Pilkington. Mae鈥檔 datblygu gorchuddion swyddogaethol a fydd yn trawsnewid toeau a waliau adeiladau鈥檔 arwynebau sy鈥檔 cynhyrchu, yn storio ac yn rhyddhau ynni.

Yn ddiweddar dyfarnwyd swm o 拢800,000 o fuddsoddiad Llywodraeth y DU ar gyfer datblygu swyddfa ynni-positif gyntaf y DU i Ganolfan Arloesi a Gwybodaeth SPECIFIC Prifysgol Abertawe.

Bydd Alun Cairns yn gweld y safle arfaethedig ar gyfer Canolfan Technoleg Bae Abertawe ym Mharc Ynni Baglan, i geisio cefnogi ac annog twf busnesau newydd a chynhelid, gyda ffocws ar y sectorau arloesi ac ymchwil a datblygu, a鈥檙 sector ynni cynyddol yn benodol.

Ychwanegodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns:

Mae gan ardaloedd Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot lawer i edrych ymlaen ato 鈥� ac nid dim ond oherwydd y prosiectau cyffrous o dan y Fargen Ddinesig sy鈥檔 trawsnewid y rhanbarth. Mae鈥檙 Harbwr a鈥檙 Ganolfan Arloesi鈥檔 esiamplau gwych o fuddsoddiadau a fydd yn sicrhau cyflogaeth gynaliadwy, gan adfywio鈥檙 ardal gyfan a chefnogi twf busnesau newydd, a fydd yn mynd 芒鈥檙 rhanbarth i gyfeiriad newydd cyffrous a arweinir gan dechnoleg.

DIWEDD

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 11 Ionawr 2018