Canllawiau

Proffiliau Llwyddiant: Gallu

Diweddarwyd 29 Ionawr 2025

Mae鈥檙 Gwasanaeth Sifil yn recriwtio trwy ddefnyddio Proffilau Llwyddiant. Maent yn ein helpu i roi鈥檙 cyfle gorau posibl i ddod o hyd i鈥檙 person gorau ar gyfer y swydd. Ar gyfer pob r么l rydym yn eu hysbysebu, rydym yn ystyried beth fyddwch angen dangos i fod yn llwyddiannus.

Mae ein Proffilau Llwyddiant yn cynnwys pum elfen:

  1. Gallu 鈥� y dawn neu鈥檙 potensial i berfformio i鈥檙 safon gofynnol
  2. Technegol 鈥� yr arddangosiad o sgiliau proffesiynol penodol, gwybodaeth neu gymwysterau
  3. Ymddygiadau - y gweithredoedd a gweithgareddau y mae pobl yn eu gwneud sy鈥檔 arwain at berfformiad effeithiol mewn swydd
  4. Cryfderau 鈥� y pethau rydym yn eu gwneud yn rheolaidd, yn eu gwneud yn dda ac sy鈥檔 ein hysgogi
  5. Profiad 鈥� y wybodaeth neu鈥檙 feistrolaeth o weithgaredd neu bwnc ag enillir trwy ymglymiad neu amlygiad iddo

Nid yw pob elfen yn berthnasol i bob r么l. Dylai cynnwys y Proffil Llwyddiant fod yn wahanol ar gyfer gwahanol mathau o swyddi. Mae hyn yn helpu i wella鈥檙 cyfle o gael y person gorau ar gyfer y r么l.

Gallu Gwasanaeth Sifil

Gallu yw鈥檙 dawn neu鈥檙 potensial i berfformio i鈥檙 safon ofynnol. Mae鈥檙 Gwasanaeth Sifil yn defnyddio cyfres o brofion seicometrig i helpu i ragfynegi perfformiad yn y dyfodol. Mae鈥檙 rhain yn cynnwys prawf rhesymu ar lafar a phrawf rhesymu rhifiadol.

Pam rydym yn asesu gallu

Wrth brofi鈥檆h gallu, rydym am ddeall eich gallu ar gyfer math o waith penodol.

Rydym yn asesu gallu i helpu i ragweld perfformiad yn y dyfodol. Gall hyn helpu rheolwyr recriwtio i gael dealltwriaeth go iawn o weld a oes gennych y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer y r么l. Gall hefyd eu helpu i asesu eich addasrwydd ar gyfer y math o waith y mae鈥檙 Gwasanaeth Sifil yn ei wneud.

Sut rydym yn asesu gallu

Gellir asesu gallu trwy ddefnyddio profion seicometrig, yn aml mewn fformat ar-lein ar y we.

Gellir asesu gallu ar wahanol gamau o鈥檙 broses recriwtio. Ond yn aml mae鈥檔 cael ei wneud ar y dechrau.

Y profion mwyaf cyffredin rydym yn eu defnyddio yn y Gwasanaeth Sifil yw:

  • prawf rhesymu ar lafar - i asesu eich galluoedd ar lafar
  • prawf rhesymu rhifiadol - i asesu eich galluoedd rhifiadol

Mae canllaw profion ar-lein y Gwasanaeth Sifil yn cynnwys ystod o brofion ymarfer, canllaw prawf manwl a fideos i鈥檆h helpu i baratoi.

Sgorir y profion yn awtomatig. Dywedir wrthych a ydych wedi cyflawni鈥檙 meincnod pasio. Ni fydd y profion hyn yr unig ffurff o ddethol. Os byddwch yn pasio, byddwch yn derbyn gwybodaeth am y cam nesaf yn y broses recriwtio.

Efallai y bydd eich gallu yn cael ei asesu ochr yn ochr ag elfennau eraill o鈥檙 Proffil Llwyddiant. Bydd hyn yn ein helpu i gael darlun mwy cyflawn o鈥檆h addasrwydd ar gyfer y r么l.

Bydd y disgrifiad swydd yn amlinellu鈥檙 elfennau rydych eu hangen ar gyfer y r么l a鈥檙 dull(iau) dethol byddwn yn eu defnyddio.

Addasiadau rhesymol

Mae鈥檙 Gwasanaeth Sifil yn weithle amrywiol a chynhwysol. Rydym eisiau eich helpu i ddangos eich potensial llawn pa bynnag fath o asesiad sy鈥檔 cael ei ddefnyddio.

Gall enghreifftiau o addasiadau gynnwys:

  • darparu dogfennau mewn print bras neu braille
  • caniat谩u mwy o amser ar gyfer prawf neu gyfweliad neu
  • darparu cymorth mewn canolfan asesu

Os oes angen unrhyw addasiadau rhesymol dywedwch wrthym pan fyddwch yn cyflwyno eich cais bod angen addasiad a sut y bydd yn helpu.

Mae yna ganllaw ar gyfer pobl ag anableddau y gofynnir iddynt gwblhau prawf ar-lein ac y gallent fod yn ansicr os oes angen cymorth arnynt i gael mynediad iddo.