Gwrthwynebu cofrestru atwrneiaeth arhosol

Sgipio cynnwys

Atwrneiaeth arhosol

Gallwch wrthwynebu cofrestru atwrneiaeth arhosol (LPA).

Rhaid i chi ddweud wrth Swyddfa鈥檙 Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG).

Efallai y bydd yn rhaid i chi hefyd ddweud wrth y Llys Gwarchod.

Mae sut rydych yn gwrthwynebu yn dibynnu ar bwy ydych chi a pham eich bod yn gwrthwynebu.

Mae鈥檙 canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Gwrthwynebu os mai chi yw鈥檙 rhoddwr

Llenwch y ffurflen wrthwynebu (LPA006) a鈥檌 hanfon at OPG. Mae鈥檙 cyfeiriad ar y ffurflen.

Gwrthwynebu os ydych yn atwrnai neu鈥檔 鈥榰nigolyn i鈥檞 hysbysu鈥�

Byddwch yn cael llythyr gan y rhoddwr neu un o鈥檜 hatwrneiod yn dweud wrthych eu bod eisiau cofrestru鈥檙 LPA. Gallwch wneud 鈥榞wrthwynebiad ffeithiol鈥� neu wrthwynebiad ar 鈥榮eiliau rhagnodedig鈥�.

Gwrthwynebiadau ffeithiol

Gallwch wrthwynebu os:

  • yw鈥檙 rhoddwr neu鈥檙 atwrnai wedi marw
  • roedd y rhoddwr a鈥檙 atwrnai yn briod neu mewn partneriaeth sifil ond maent wedi ysgaru neu wedi dod 芒鈥檙 bartneriaeth sifil i ben
  • nid oes gan atwrnai y gallu meddyliol i fod yn atwrnai
  • mae鈥檙 atwrnai wedi dewis rhoi鈥檙 gorau i weithredu (a elwir weithiau yn 鈥榶mwrthod 芒鈥檜 penodiad 鈥�)
  • mae鈥檙 rhoddwr neu鈥檙 atwrnai yn fethdalwr, yn fethdalwr dros dro neu鈥檔 destun gorchymyn rhyddhad dyled (atwrneiod eiddo a materion ariannol yn unig)

Llenwch y ffurflen wrthwynebu (LPA007) a鈥檌 hanfon at OPG. Mae鈥檙 cyfeiriad ar y ffurflen.

Mae鈥檔 rhaid i chi wrthwynebu cyn pen 3 wythnos ar 么l cael gwybod am y cofrestriad.

Gwrthwynebiadau rhagnodedig

Gallwch wrthwynebu鈥檙 cofrestriad os ydych yn meddwl:

  • nad yw鈥檙 LPA yn gywir yn gyfreithiol
  • nad ydych yn credu bod gan y rhoddwr alluedd meddyliol i wneud LPA
  • bod y rhoddwr wedi diddymu eu LPA pan oeddent wedi adennill eu galluedd
  • bod twyll wedi digwydd, e.e. rhywun wedi ffugio llofnod y rhoddwr
  • roedd pwysau ar y rhoddwr i wneud LPA
  • bod atwrnai yn gweithredu yn erbyn buddiannau pennaf y rhoddwr

Bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth i gefnogi unrhyw rai o鈥檙 gwrthwynebiadau hyn.

Llenwch y canlynol:

Nid yw鈥檔 costio dim i wrthwynebu os ydych yn atwrnai neu鈥檔 unigolyn i鈥檞 hysbysu.

Gwrthwynebu os nad ydych yn atwrnai neu鈥檔 鈥榰nigolyn i鈥檞 hysbysu鈥�

Llenwch y ffurflen wrthwynebu (COP1), gwnewch gopi ohoni ac anfonwch y gwreiddiol a鈥檙 copi i鈥檙 Llys Gwarchod.

Anfonwch siec o 拢421 yn daladwy i 鈥榃asanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM鈥� gyda鈥檆h ffurflenni.

Llys Gwarchod
PO Box 70185
First Avenue House
42-49 High Holborn
Llundain
WC1A 9JA

Gostyngiad neu esemptiad o鈥檙 ffi

Efallai na fydd yn rhaid i chi dalu鈥檙 ffioedd os ydych yn cael budd-daliadau neu os ydych ar incwm isel.

Lawrlwythwch y ffurflen i gadarnhau eich bod yn gymwys ac i wneud cais.

Beth fydd yn digwydd nesaf

Ar 么l i chi anfon y ffurflenni ac unrhyw ffioedd, bydd OPG neu鈥檙 Llys Gwarchod yn cysylltu 芒 chi. Byddant yn dweud wrthych os:

  • byddant yn atal y cofrestriad
  • bydd gwrandawiad yn cael ei gynnal i drafod eich gwrthwynebiad