Rhoi ystafell yn eich cartref ar osod
Y Cynllun Rhentu Ystafell
Mae鈥檙 Cynllun Rhentu Ystafell yn eich galluogi i ennill hyd at uchafswm o 拢7,500 y flwyddyn yn rhydd o dreth drwy roi llety wedi鈥檌 dodrefnu yn eich cartref ar osod. Bydd y trothwy yn cael haneru i 拢3,750 os ydych yn rhannu鈥檙 incwm gyda rhywun arall.
Eich penderfyniad chi yw faint o鈥檆h cartref rydych am roi ar osod.
Sut mae鈥檔 gweithio
Mae鈥檙 eithriad rhag treth yn awtomatig os ydych yn ennill llai na鈥檆h trothwy. Mae hyn yn golygu nad oes angen i chi wneud dim byd.
Os ydych yn ennill mwy na鈥檆h trothwy, mae鈥檔 rhaid i chi lenwi Ffurflen Dreth.
Gallwch wedyn fynd ati i optio i mewn i鈥檙 cynllun a hawlio鈥檆h lwfans rhydd o dreth. Gallwch wneud hyn ar eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad.
Gallwch ddewis peidio ag optio i mewn i鈥檙 cynllun, a chadw cofnod o鈥檆h incwm a鈥檆h treuliau ar dudalennau 鈥榚iddo鈥� eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad yn lle.
Rhagor o wybodaeth
I gael rhagor o wybodaeth fanwl ynghylch sut i lenwi鈥檙 ffurflen, a phryd mae鈥檔 synhwyrol i chi optio allan o鈥檙 cynllun, darllenwch daflen gymorth Rhentu Ystafell (yn agor tudalen Saesneg).
Cymhwystra
Gallwch ddewis optio i mewn i鈥檙 cynllun ar unrhyw adeg os yw鈥檙 canlynol yn berthnasol:
-
rydych yn landlord preswyl, p鈥檜n a ydych yn berchen ar eich cartref ai peidio
-
rydych yn rhedeg eiddo gwely a brecwast neu d欧 gwesteion
Ni allwch ddefnyddio鈥檙 cynllun ar gyfer cartrefi a droswyd yn fflatiau ar wah芒n.