Sefydlu busnes
Mae鈥檙 mwyafrif o fusnesau yn cofrestru fel unig fasnachwr neu gwmni cyfyngedig, ond mae ffyrdd eraill o sefydlu busnes.
Mae鈥檙 strwythur busnes rydych yn ei ddewis yn gallu effeithio ar y ffordd rydych yn talu treth a鈥檆h cyfrifoldebau cyfreithiol.
Gallwch symud o un strwythur busnes i un arall. Fel arfer, mae鈥檔 haws symud o fod yn unig fasnachwr i fod yn gwmni cyfyngedig.
Mae鈥檙 canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Unig fasnachwyr
Unig fasnachwr yw鈥檙 strwythur busnes symlaf i鈥檞 sefydlu ac i gadw cofnodion ar ei gyfer.
Mae unig fasnachwyr yn gwneud yr holl benderfyniadau busnes ac yn cadw鈥檙 holl elw ar 么l talu treth.
Gallwch ddysgu rhagor am sefydlu busnes fel unig fasnachwr.
Cwmn茂au cyfyngedig
Mae cwmni cyfyngedig wedi ei wahanu鈥檔 gyfreithiol oddi wrth y bobl sy鈥檔 berchen arno, ac mae鈥檔 cael ei redeg gan un neu fwy o gyfarwyddwyr. Mae llawer o gyfrifoldebau a phethau eraill i鈥檞 hystyried pan fyddwch yn rhedeg cwmni cyfyngedig.
Gallwch ddysgu rhagor am sefydlu cwmni cyfyngedig (yn agor tudalen Saesneg).
Cymharu鈥檙 gwahaniaeth rhwng unig fasnachwr a chwmni cyfyngedig
Mae鈥檙 tabl hwn yn dangos y prif wahaniaethau rhwng bod yn unig fasnachwr a bod yn gwmni cyfyngedig.
Unig fasnachwr | Cwmni cyfyngedig | |
---|---|---|
Risgiau cyfreithiol neu 鈥榬hwymedigaeth鈥� | Chi yw鈥檙 person sy鈥檔 gyfrifol am holl ddyledion y busnes. Gelwir hyn yn 鈥榬hwymedigaeth ddiderfyn鈥�. Os aiff rhywbeth o鈥檌 le, efallai y bydd angen ychwanegol arnoch. | Perchnogion y cwmni sy鈥檔 gyfrifol am ddyledion y busnes, hyd at werth eu buddsoddiad ariannol yn unig. Gelwir hyn yn 鈥榬hwymedigaeth gyfyngedig鈥�. Gall cwmni cyfyngedig eich diogelu os bydd pethau yn mynd o鈥檜 lle, ond efallai y bydd angen ychwanegol arnoch. |
Cyllid | Rydych yn cadw鈥檙 holl elw ar 么l talu treth. | Mae鈥檔 rhaid i鈥檙 cyfarwyddwyr ddilyn y rheolau wrth dynnu arian o gwmni cyfyngedig (yn agor tudalen Saesneg). |
Enw | Gallwch ddewis enw masnachu neu ddefnyddio鈥檆h enw eich hunan. | Mae rheolau i鈥檞 dilyn wrth ddewis enw ar gyfer busnes (yn agor tudalen Saesneg). |
Cadw cofnodion a chyfrifon | Pan fyddwch yn dechrau masnachu, mae鈥檔 rhaid i chi gadw cofnodion. | Mae鈥檔 rhaid i鈥檙 cyfarwyddwyr ddilyn y rheolau wrth redeg cwmni cyfyngedig (yn agor tudalen Saesneg) a rhaid cyflwyno cyfrifon a Ffurflenni Treth ar gyfer y cwmni (yn agor tudalen Saesneg). |
Cofrestru | Gallwch ddechrau masnachu ar unwaith heb gofrestru. Fodd bynnag, mae鈥檔 rhaid i chi gofrestru am Hunanasesiad fel unig fasnachwr os ydych yn ennill mwy na 拢1,000 mewn blwyddyn dreth (o 6 Ebrill i 5 Ebrill). Gallwch ddewis cofrestru yn gynharach. | Mae鈥檔 rhaid i berchnogion y cwmni gofrestru鈥檙 cwmni (yn agor tudalen Saesneg) cyn iddynt ddechrau masnachu. Gallwch gofrestru yn gynharach os hoffech adael eich cwmni鈥檔 segur (yn agor tudalen Saesneg). |
Treth Incwm | Mae鈥檔 bosibl y bydd angen i chi dalu Treth Incwm ar eich elw. Rydych yn talu hon drwy鈥檆h Ffurflenni Treth Hunanasesiad. | Mae鈥檔 bosibl y bydd yn rhaid i鈥檙 cyfarwyddwyr dalu Treth Incwm, yn dibynnu ar sut maen nhw鈥檔 tynnu arian o gwmni cyfyngedig (yn agor tudalen Saesneg). |
Yswiriant Gwladol | Mae鈥檔 bosibl y bydd angen i chi dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn dibynnu ar eich elw. Gallwch ddewis talu鈥檙 rhain er mwyn bod yn gymwys i gael budd-daliadau penodol a Phensiwn y Wladwriaeth. | Mae鈥檔 bosibl y bydd angen i鈥檙 cyfarwyddwyr dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn dibynnu ar sut maen nhw鈥檔 tynnu arian o gwmni cyfyngedig (yn agor tudalen Saesneg). |
TAW | Mae angen i chi gofrestru ar gyfer TAW os ydych yn bodloni鈥檙 gofynion. | Mae angen i鈥檙 cwmni gofrestru ar gyfer TAW os yw鈥檔 bodloni鈥檙 gofynion. |
Treth Gorfforaeth | Nid yw unig fasnachwyr yn talu Treth Gorfforaeth. | Bydd angen i鈥檙 cwmni dalu Treth Gorfforaeth (yn agor tudalen Saesneg) ar unrhyw elw. |
Rhyddhad treth | Mae rhyddhadau treth ar gyfer unig fasnachwyr (yn agor tudalen Saesneg). | Mae rhyddhadau treth ar gyfer cwmn茂au cyfyngedig (yn agor tudalen Saesneg). |
Statws cyflogaeth | Byddwch yn cael eich ystyried yn 鈥榟unangyflogedig鈥�. | Gall cyfarwyddwyr y cwmni (yn agor tudalen Saesneg) fod yn gyflogeion o ran y cwmni neu鈥檔 ddeiliaid swydd (yn agor tudalen Saesneg). |
Cyflogi cyflogeion | Gallwch gyflogi staff. | Gall y cwmni gyflogi staff. |
Ffyrdd eraill o sefydlu busnes
Gwiriwch a ddylech sefydlu busnes fel un o鈥檙 canlynol:
Cael help a chymorth
Gallwch gael help gyda sefydlu eich busnes (yn agor tudalen Saesneg).