Gwneud cais am PIP os ydych yn agos谩u at ddiwedd oes

Os ydych yn agos谩u at ddiwedd oes (er enghraifft, oherwydd salwch sy鈥檔 cyfyngu ar fywyd) efallai y byddwch yn gallu cael Taliad Annibyniaeth Personol (PIP) yn gyflymach ac ar gyfradd uwch.

Weithiau gelwir hyn yn 鈥榬eolau arbennig ar gyfer diwedd oes鈥�.

Cymhwysedd

Rydych yn gymwys i wneud cais am PIP o dan y rheolau arbennig ar gyfer diwedd oes os:

  • mae eich meddyg neu weithiwr meddygol proffesiynol wedi dweud y gallai fod gennych 12 mis neu lai i fyw

  • rydych yn 16 oed neu drosodd

Rhaid hefyd i chi fod o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth os nad ydych wedi hawlio PIP o鈥檙 blaen.

Gall fod yn anodd rhagweld am ba hyd y gallai rhywun fyw. Os nad yw gweithiwr meddygol proffesiynol wedi siarad 芒 chi am hyn, gallwch ofyn iddynt gefnogi鈥檆h cais o dan y rheolau arbennig ar gyfer diwedd oes.

Os ydych yn byw yn yr Alban, mae angen i chi yn lle. .

Beth fyddwch yn ei gael

Byddwch yn cael yr elfen bywyd bob dydd uwch o 拢110.40 yr wythnos.

Mae p鈥檜n a ydych yn cael y rhan symudedd a faint ydych yn ei gael yn dibynnu ar eich anghenion. Y gyfradd wythnosol is yw 拢29.20 a鈥檙 gyfradd wythnosol uwch yw 拢77.05.

Sut i wneud cais

Gallwch wneud cais drosoch eich hun neu gall rhywun arall wneud hyn ar eich rhan.

  1. Ffoniwch linell ceisiadau PIP i ddechrau eich cais.

  2. Gofynnwch i weithiwr gofal iechyd proffesiynol am ffurflen SR1. Byddant naill ai鈥檔 ei llenwi i mewn a rhoi鈥檙 ffurflen i chi neu ei hanfon yn uniongyrchol i鈥檙 Adran Gwaith a Phensiynau (DWP).

  3. Os ydych hefyd yn hawlio Credyd Cynhwysol, mewngofnodwch i鈥檆h cyfrif ar-lein a defnyddiwch eich dyddlyfr i ddweud eich bod wedi anfon SR1 i DWP.

Ni fydd angen i chi fynd i ymgynghoriad wyneb yn wyneb.

Os ydych angen rhywun i鈥檆h helpu, gallwch:

  • ofyn iddynt gael eu hychwanegu i鈥檆h galwad 鈥� ni allwch wneud hyn os ydych yn defnyddio ff么n testun
  • ofyn i rywun ffonio ar eich rhan - byddwch angen bod gyda hwy pan fyddant yn ffonio

Ceisiadau PIP

Ff么n: 0800 917 2222

Ff么n testun: 0800 917 7777

(os na allwch glywed neu siarad dros y ff么n): 18001 yna 0800 917 2222

Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur 鈥� darganfyddwch sut i

Ffonio o dramor: +44 191 218 7766

Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm

Darganfyddwch am gostau galwadau