Arweiniad ar gynlluniau pensiwn Pennod 1
Os ydych yn aelod o gynllun pensiwn cyhoeddus, neu鈥檔 gynrychiolydd personol cyfreithiol ar gyfer aelod o鈥檙 fath, ac nad ydych yn aelod o gynllun barnwrol neu gynllun llywodraeth leol, gwiriwch sut gallai鈥檙 cynllun unioni pensiynau gwasanaeth cyhoeddus (a elwir yn McCloud) effeithio arnoch chi.
Beth yw cynllun Pennod 1
Ystyr cynllun pensiwn Pennod 1 yw cynllun pensiwn gwasanaeth cyhoeddus nad yw ar gyfer:
Mae hyn yn cynnwys cynlluniau pensiwn ar gyfer:
-
y GIG
-
y lluoedd arfog
-
athrawon
-
yr heddlu
-
diffoddwyr t芒n
-
gweision sifil
Mae cynlluniau Pennod 1 wedi鈥檜 rhannu鈥檔 ddwy:
-
cynlluniau newydd 鈥� cynlluniau a ddechreuodd o 1 Ebrill 2015 ymlaen (ar 么l diwygio pensiynau gwasanaeth cyhoeddus)
-
cynlluniau hanesyddol 鈥� cynlluniau a ddechreuodd cyn 1 Ebrill 2015
I bwy y mae鈥檙 cynllun unioni鈥檔 berthnasol
Dim ond os oes gennych wasanaeth y gellir ei unioni y mae鈥檙 cynllun unioni鈥檔 berthnasol.
Ystyr gwasanaeth y gellir ei unioni yw (pob un o鈥檙 canlynol):
-
lle鈥檙 oedd gennych wasanaeth pensiynadwy ar 31 Mawrth 2012 neu cyn hynny
-
lle鈥檙 oedd gennych wasanaeth pensiynadwy drwy gynllun Pennod 1 neu wasanaeth athrawon sydd dros ben ar unrhyw adeg rhwng 1 Ebrill 2015 a hyd at 31 Mawrth 2022 ar gyfer cynllun nad yw鈥檔 gynllun asiantaeth, neu rhwng 1 Ebrill 2016 a hyd at 31 Mawrth 2022 ar gyfer cynllun asiantaeth (sef cyfnod y cynllun unioni)
-
lle nad oedd gennych fwlch yn eich gwasanaeth pensiynadwy a barodd fwy na 5 mlynedd, ac a ddechreuodd neu a ddaeth i ben rhwng 1 Ebrill 2012 a 31 Mawrth 2015 (31 Mawrth 2016 ar gyfer cynllun asiantaeth
Mae gwasanaeth athrawon sydd dros ben yn cyfeirio at y gyflogaeth ran-amser, lle mae gan athro gyflogaeth amser llawn a chyflogaeth ran-amser ar yr un pryd, a bod y gyflogaeth ran-amser yn bensiynadwy yn y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.
Sut mae鈥檙 cynllun unioni鈥檔 effeithio arnoch chi
Mae sut y mae hyn yn effeithio arnoch yn dibynnu ar eich statws, neu statws yr aelod y rydych yn gynrychiolydd personol cyfreithiol ar ei gyfer, yn y cynllun ar 30 Medi 2023 ymlaen, sef:
-
aelod gweithredol 鈥� roeddech yn dal i gronni buddiannau pensiwn yn eich cynllun pensiwn gwasanaeth cyhoeddus, ac nid oeddech wedi dechrau cymryd eich buddiannau pensiwn eto
-
aelod gohiriedig 鈥� nid oeddech yn cronni buddiannau pensiwn yn eich cynllun pensiwn gwasanaeth cyhoeddus mwyach, ac nid oeddech wedi dechrau cymryd eich buddiannau pensiwn eto
-
aelod-bensiynwr 鈥� roeddech wedi dechrau cymryd eich buddiannau pensiwn
-
aelod ymadawedig
Dirwyn yn 么l
Drwy鈥檙 cynllun unioni, bydd gwasanaeth pensiynadwy drwy鈥檙 cynllun Pennod 1 newydd yn cael ei ddirwyn yn 么l i鈥檙 cynllun Pennod 1 hanesyddol.
Mae hyn yn golygu y bydd unrhyw wasanaeth pensiynadwy, hyd at 31 Mawrth 2022 a chan gynnwys y dyddiad hwnnw, yn cael ei drin fel gwasanaeth sydd wastad wedi bod yn y cynllun Pennod 1 hanesyddol, ac nad yw erioed wedi bod yn y cynllun Pennod 1 newydd.
Bydd unrhyw wasanaeth pensiynadwy o 1 Ebrill 2022 ymlaen yn cael ei gronni yn y cynllun Pennod 1 newydd.
Bydd hyn yn effeithio ar y swm a delir i mewn i鈥檙 pensiwn, a fydd yn cael ei ddangos ar ddatganiad cynilion y pensiwn.
Sut yr effeithir ar drosglwyddiadau i鈥檙 cynllun
Mae鈥檙 modd yr ymdrinnir 芒 throsglwyddiadau i鈥檙 cynllun newydd yn ystod cyfnod y cynllun unioni yn dibynnu ar reolau鈥檙 cynllun pensiwn. Gall gweinyddwr eich cynllun pensiwn roi gwybod i chi sut y byddant yn cael eu trin.
Sut yr effeithir ar gyfraniadau gwirfoddol i鈥檙 cynllun newydd
Yn y rhan fwyaf o achosion, ni fydd unrhyw gyfraniadau gwirfoddol a wneir i鈥檙 cynllun newydd yn ystod cyfnod y cynllun unioni yn cael eu dirwyn yn 么l yn awtomatig
Bydd rheoliadau鈥檙 cynllun yn nodi a ydych yn cael dewis sut yr ymdrinnir 芒鈥檆h cyfraniadau gwirfoddol. Bydd gweinyddwr eich cynllun yn rhoi gwybod i chi pa opsiynau sydd gennych.
Aelodau gweithredol a gohiriedig
Os oeddech yn aelod gweithredol neu鈥檔 aelod gohiriedig ar 30 Medi 2023, bydd angen i chi ddewis a ydych am gymryd buddiannau鈥檙 cynllun hanesyddol neu fuddiannau鈥檙 cynllun newydd ar gyfer cyfnod y cynllun unioni pan fyddwch yn ymddeol.
Os na fyddwch yn gwneud penderfyniad, gweinyddwr y cynllun fydd yn penderfynu a ddylech gael buddiannau鈥檙 cynllun newydd.
Pensiynwyr ac aelodau ymadawedig
Os ydych yn bensiynwr neu鈥檔 gynrychiolydd personol cyfreithiol ar gyfer aelod ymadawedig, byddwch yn cael:
-
datganiad gwasanaeth y gellir ei unioni
-
yna gofynnir i chi ddewis a ydych yn dymuno cael buddiannau鈥檙 cynllun Pennod 1 newydd neu fuddiannau鈥檙 cynllun hanesyddol ar gyfer cyfnod y cynllun unioni
Os byddwch yn dewis buddiannau鈥檙 cynllun newydd, bydd y buddiannau鈥檔 digwydd yn 么l-weithredol. Mae hyn yn golygu bod swm y buddiant yn newid, gan ddyddio鈥檔 么l i鈥檙 adeg yn union cyn i chi ddod yn gymwys i gael eich pensiwn. Os bu farw鈥檙 person cyn dod yn gymwys i gael ei bensiwn, bydd yn dyddio鈥檔 么l i鈥檙 adeg yn union cyn ei farwolaeth.
Rhaid i chi wneud penderfyniad cyn pen blwyddyn i gael y datganiad gwasanaeth y gellir ei unioni. Os na fyddwch yn gwneud penderfyniad, gweinyddwr y cynllun fydd yn penderfynu a ddylech gael buddiannau鈥檙 cynllun newydd.
Gwirio a yw鈥檙 cynllun unioni鈥檔 effeithio ar eich treth
O ganlyniad i鈥檙 cynllun unioni, gall y cyfraniadau pensiwn y dylech fod wedi鈥檜 talu yn ystod cyfnod y cynllun unioni fod yn wahanol, ond ni fydd hyn yn effeithio ar unrhyw ryddhad treth a gawsoch. Bydd darparwr eich cynllun pensiwn yn rhoi gwybod i chi a ydych wedi talu gormod neu heb dalu digon o gyfraniadau pensiwn, a pha gamau y mae angen i chi eu cymryd.
Os oedd gennych d芒l treth lwfans blynyddol, neu os oeddech yn agos at hynny
Efallai bod eich sefyllfa dreth wedi newid os yw鈥檙 swm a delir i mewn i鈥檆h pensiwn wedi newid o ganlyniad i鈥檙 cynllun unioni. Os oeddech yn agos at gael t芒l treth lwfans blynyddol (yn agor tudalen Saesneg) yn ystod cyfnod y cynllun unioni, efallai y bydd angen i chi adolygu a chyfrifo eich sefyllfa o ran y lwfans blynyddol.
Gwiriwch a yw hyn wedi effeithio ar eich lwfans blynyddol. Os yw hyn wedi cael effaith, bydd angen i chi gyfrifo eich sefyllfa dreth a gwneud cais i鈥檞 chywiro.
Effaith ar daliadau treth lwfans blynyddol
Os cawsoch ddigwyddiad crisialu buddiannau yn ystod cyfnod y cynllun unioni, efallai y bydd hyn wedi cael ei ddiweddaru. Dylech wirio sut mae hyn wedi effeithio ar eich lwfans oes, oherwydd gall ad-daliad o d芒l blaenorol fod yn ddyledus i chi, neu efallai y byddwch yn atebol am dalu t芒l newydd neu d芒l wedi鈥檌 gynyddu.
Os codir t芒l wedi鈥檌 gynyddu neu d芒l newydd, bydd gweinyddwr eich cynllun pensiwn yn cysylltu 芒 chi i roi gwybod beth yw鈥檙 swm.
Yr hyn y bydd gweinyddwr eich cynllun yn ei anfon atoch
Datganiad gwasanaeth y gellir ei unioni
Bydd gweinyddwr eich cynllun pensiwn yn anfon datganiad gwasanaeth y gellir ei unioni atoch erbyn 1 Ebrill 2025, beth bynnag fo鈥檆h statws. Bydd hyn yn rhoi manylion y buddiannau drwy鈥檙 cynllun hanesyddol, yn ogystal 芒 drwy鈥檙 cynllun newydd 鈥� gan eich galluogi i gymharu鈥檙 buddiannau.
Bydd aelodau gweithredol yn parhau i gael datganiad gwasanaeth y gellir ei unioni bob blwyddyn nes i chi ddewis pa fuddiant i鈥檞 gymryd.
Bydd angen i aelodau gohiriedig ofyn am unrhyw ddatganiadau gwasanaeth y gellir ei unioni pellach gan weinyddwr eich cynllun pensiwn.
Datganiad cynilion pensiwn
Os cawsoch ddatganiadau cynilion pensiwn yn ystod y blynyddoedd treth a gwmpesir gan y cynllun unioni, bydd gweinyddwr eich cynllun pensiwn yn anfon datganiadau wedi鈥檜 diwygio atoch os yw鈥檙 swm a delir i mewn i鈥檆h pensiwn wedi newid.
Os na chawsoch ddatganiadau cynilion pensiwn yn ystod y blynyddoedd treth a gwmpesir gan y cynllun unioni, ond bod gweinyddwr eich cynllun pensiwn yn nodi cynnydd yn y swm a delir i mewn i鈥檆h pensiwn sydd dros y lwfans blynyddol ar gyfer y flwyddyn dreth (yn agor tudalen Saesneg), bydd yn anfon datganiad newydd atoch.
Gallwch hefyd ofyn am ddatganiadau gan weinyddwr eich cynllun pensiwn.
Dylech ddefnyddio鈥檙 datganiadau hyn i鈥檆h helpu i gyfrifo a oes gennych d芒l treth lwfans blynyddol newydd, neu a yw wedi cynyddu neu ostwng.
Datganiad digwyddiad crisialu buddiannau
Bydd gweinyddwr eich cynllun pensiwn yn anfon datganiad wedi鈥檌 ddiwygio atoch ar gyfer digwyddiad crisialu buddiannau os yw swm eich digwyddiad crisialu buddiannau wedi newid.
Os anfonir datganiad atoch ar gyfer digwyddiad crisialu buddiannau, a鈥檆h bod wedi cael digwyddiad crisialu buddiannau mewn cynllun pensiwn arall, rhaid i chi anfon copi i鈥檙 cynllun pensiwn arall.
Os ydych wedi optio allan o鈥檆h pensiwn
Os gwnaethoch optio allan o鈥檆h cynllun pensiwn gwasanaeth cyhoeddus yn ystod cyfnod y cynllun unioni, gallwch ofyn i鈥檆h cynllun pensiwn a allwch optio yn 么l i mewn i鈥檙 cynllun.
Ar gyfer gweision sifil, a ddewisodd gael , gallwch ofyn am gael eich dychwelyd i gynllun hanesyddol y Gwasanaeth Sifil.
Bydd rheoliadau eich cynllun yn nodi鈥檙 amodau ar gyfer sut y gallwch wneud hyn.
Os ydych am i asiant weithredu ar eich rhan
Bydd angen i chi roi caniat芒d ysgrifenedig os ydych am i asiant gyflwyno eich gwybodaeth wedi鈥檌 diweddaru i CThEF. Bydd yr asiant wedyn yn gallu defnyddio鈥檙 gwasanaeth Cyfrifo鈥檙 addasiad i鈥檆h pensiwn gwasanaeth cyhoeddus i wirio unrhyw newidiadau yn eich sefyllfa dreth a chyflwyno鈥檙 wybodaeth ar eich rhan.