Ar ol i chi wneud her

Bydd Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) yn cadarnhau ei bod wedi derbyn eich her. Mae hyn fel arfer o fewn ychydig ddyddiau, ond weithiau gall gymryd hyd at 28 diwrnod.

Bydd yn adolygu eich her ac yn gwneud penderfyniad. Gall hyn gymryd hyd at 6 mis pan fydd gennych hawl gyfreithiol i herio (鈥榞wneud cynnig鈥�).

Os ydych wedi cyflwyno her oherwydd eich bod o鈥檙 farn fod eich eiddo yn y band anghywir ond nad oes gennych hawl gyfreithiol i herio (鈥榓dolygiad band鈥�), gall hyn gymryd hyd at 12 mis.

Os oes angen rhagor o wybodaeth ar y VOA, bydd yn cysylltu 芒 chi.

Pan fydd wedi gorffen yr adolygiad, bydd yn gwneud un o鈥檙 canlynol:

  • newid eich band Treth Gyngor a rhoi wybod i鈥檆h cyngor lleol - bydd eich cyngor yn adolygu eich bil ac yn talu unrhyw ad-daliad sy鈥檔 ddyledus
  • tynnu eich eiddo oddi ar restr y Dreth Gyngor - gwiriwch beth sy鈥檔 digwydd ar 么l i eiddo gael ei ddileu
  • ychwanegu eich eiddo at restr y Dreth Gyngor - byddwch yn cael band newydd
  • dweud wrthych pam na ellir newid eich band

Os ydych yn anghytuno 芒鈥檙 penderfyniad

Dim ond os oedd gennych hawl gyfreithiol i herio (鈥榞wneud cynnig鈥�) y gallwch apelio yn erbyn y penderfyniad.

Yng Nghymru, nid oes angen ichi wneud dim. Bydd eich her yn cael ei hanfon yn awtomatig at os na fyddwch yn ymateb i鈥檙 penderfyniad.

Yn Lloegr, gallwch . Mae鈥檙 Tribiwnlys Prisio yn annibynnol ar y VOA. Mae鈥檔 rhad ac am ddim, ond mae鈥檔 rhaid i chi dalu eich costau eich hun.

Fel arfer mae angen i chi apelio o fewn 3 mis i gael y penderfyniad.

Efallai y gallwch gael y terfyn amser wedi鈥檌 ymestyn mewn rhai amgylchiadau. Bydd angen i chi esbonio pam fod angen estyniad arnoch ar y ffurflen ap锚l.

Os bydd y tribiwnlys yn cytuno 芒 chi, bydd y VOA yn newid eich band a bydd y cyngor yn diweddaru eich bil.

Cymorth

Os ydych yn Lloegr, mae gan y Tribiwnlys Prisio ganllawiau ar:

Os ydych chi yng Nghymru, mae gan Dribiwnlys Prisio Cymru .

Gallwch hefyd gysylltu 芒鈥檙 tribiwnlys am gymorth.

Tribiwnlys Prisio
Ff么n (Lloegr): 03000 501 501
Ff么n (Cymru): 03000 505 505
Dydd Llun i ddydd Mawrth, 9am i 4:30pm
Dydd Mercher, 10am i 4:30pm
Dydd Iau i ddydd Gwener, 9am i 4:30pm
Gwybodaeth am gostau galwadau