Herio’ch band Treth Gyngor
Pan nad oes gennych hawl gyfreithiol i herio
Gallwch ofyn i’ch band gael ei adolygu os:
- rydych wedi bod yn talu Treth Gyngor am fwy na 6 mis
- nad oes unrhyw newidiadau wedi bod i’r eiddo yn ddiweddar ond rydych chi’n meddwl bod y band yn anghywir
Bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth o pam rydych o’r farn fod eich eiddo yn y band anghywir.
Tystiolaeth i gefnogi eich her
Bydd angen i chi ddarparu cyfeiriadau ar gyfer hyd at 5 eiddo tebyg mewn band is na’ch un chi.
Dylai’r eiddo fod yr un fath â’ch eiddo chi o ran:
- math - er enghraifft, os ydych yn byw mewn tŷ pâr dylai’r eiddo fod yn dai pâr
- maint - er enghraifft, nifer yr ystafelloedd gwely a chyfanswm yr arwynebedd
- oed
- arddull a dyluniad
Dylai’r eiddo hefyd fod naill ai:
- yn yr un stryd neu stad - os ydych yn byw mewn tref neu ddinas
- yn yr un pentref neu ardal - os ydych yn byw yng nghefn gwlad
Tystiolaeth o brisiau tai
Gallwch hefyd ddefnyddio’r pris y gwerthwyd eich eiddo neu eiddo tebyg amdanynt fel tystiolaeth, os oedd y gwerthiant rhwng:
- 1 Ebrill 1989 a 31 Mawrth 1993 - os yw eich eiddo yn Lloegr
- 1 Ebrill 2001 a 31 Mawrth 2005 - os yw eich eiddo yng Nghymru
Gallwch chwilio am brisiau gwerthu eiddo ar-lein o 1995 ymlaen.
Cymharwch y prisiau gwerthu â’r prisiau y prisiwyd yr eiddo ar gyfer Treth Gyngor.
Band Treth Gyngor | Eiddo yn Lloegr - gwerth ym mis Ebrill 1991 | Eiddo yng Nghymru - gwerth ym mis Ebrill 2003 |
---|---|---|
A | Hyd at £40,000 | Hyd at £44,000 |
B | Mwy na £40,000 a hyd at £52,000 | Mwy na £44,000 a hyd at £65,000 |
C | Mwy na £52,000 a hyd at £68,000 | Mwy na £65,000 a hyd at £91,000 |
D | Mwy na £68,000 a hyd at £88,000 | Mwy na £91,000 a hyd at £123,000 |
E | Mwy na £88,000 a hyd at £120,000 | Mwy na £123,000 a hyd at £162,000 |
F | Mwy na £120,000 a hyd at £160,000 | Mwy na £162,000 a hyd at £223,000 |
G | Mwy na £160,000 a hyd at £320,000 | Mwy na £223,000 a hyd at £324,000 |
H | Mwy na £320,000 | Mwy na £324,000 a hyd at £424,000 |
I | Amherthnasol | Mwy na £424,000 |
Os yw’r prisiau gwerthu y tu allan i fand Treth Gyngor, gallwch ddefnyddio hwn fel tystiolaeth. Bydd angen i chi roi:
- cyfeiriadau’r eiddo
- y prisiau gwerthu
- y dyddiadau y gwerthwyd yr eiddo - po agosaf yw hwn at y dyddiad prisio, y mwyaf tebygol yw y bydd Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) yn gallu defnyddio’r dystiolaeth hon
Ni fydd y VOA yn ystyried gwybodaeth am brisiau tai cyfartalog o wefannau fel Nationwide House Price Index, Nethouseprices, Rightmove neu Zoopla fel tystiolaeth gref.