Cronfa Ymddiriedolaeth Plant
Trosolwg
Mae Cronfa Ymddiriedolaeth Plant yn gyfrif cynilo hirdymor sy鈥檔 rhydd o dreth ar gyfer plant a aned rhwng 1 Medi 2002 a 2 Ionawr 2011.
Dod o hyd i Gronfa Ymddiriedolaeth Plant fel rhiant, neu os ydych chi dros 16 oed.
Daeth y cynllun Cronfa Ymddiriedolaeth Plant i ben yn 2011. Gallwch wneud cais am ISA ar gyfer Plant Iau (yn agor tudalen Saesneg) yn lle hynny.
Ni allwch gael cyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant yn ogystal ag ISA ar gyfer Plant Iau. Os byddwch yn agor cyfrif ISA ar gyfer Plant Iau, gofynnwch i鈥檙 darparwr drosglwyddo cynnwys y Gronfa Ymddiriedolaeth iddo.
Mae鈥檙 canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Talu i mewn i Gronfa Ymddiriedolaeth Plant
Gallwch barhau i ychwanegu hyd at 拢9,000 y flwyddyn at gyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant sy鈥檔 bodoli eisoes. Mae鈥檙 arian yn eiddo i鈥檙 plentyn, a gall y plentyn dim ond ei dynnu o鈥檙 cyfrif pan fydd yn troi鈥檔 18 oed. Gall y plentyn gymryd rheolaeth dros y cyfrif pan fydd yn troi鈥檔 16 oed.
Nid oes treth i鈥檞 thalu ar incwm Cronfa Ymddiriedolaeth Plant nac ar unrhyw elw y mae鈥檔 ei gwneud. Ni fydd yn effeithio ar unrhyw fudd-daliadau neu gredydau treth a gewch.