Cronfa Ymddiriedolaeth Plant
Cyfrifon ar gyfer plant mewn gofal
Mae gan rai plant sy鈥檔 derbyn gofal gan awdurdodau lleol gyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant wedi鈥檌 sefydlu ar eu rhan. Mae鈥檙 yn gweithredu fel y cyswllt cofrestredig ar gyfer y cyfrifon hyn.
Sut mae鈥檙 cyfrif yn cael ei reoli
Mae鈥檙 Share Foundation yn rheoli鈥檙 cyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant ar ran y plentyn, a bydd yn:
- ysgrifennu at y plentyn pan fydd yn cymryd rheolaeth dros y cyfrif
- newid y math o gyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant a鈥檙 darparwr os oes angen, ac yn ysgrifennu at y plentyn gan esbonio鈥檙 rheswm dros y newid
- anfon cyfriflenni鈥檙 cyfrif at y plentyn
Bydd y Share Foundation yn rheoli鈥檙 cyfrif hyd nes:
- bydd y plentyn yn troi鈥檔 18 oed
- bydd y plentyn yn troi鈥檔 16 oed ac yn penderfynu rheoli鈥檙 cyfrif ei hun
- bydd rhywun yn cymryd cyfrifoldeb rhiant (yn agor tudalen Saesneg) dros y plentyn, er enghraifft drwy fabwysiadu
Cymryd rheolaeth dros gyfrif
Cysylltwch 芒鈥檙 Share Foundation os ydych yn cymryd cyfrifoldeb rhiant dros blentyn a鈥檆h bod am reoli ei gyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant.
Dim ond os ydych chi鈥檔 rhiant plentyn a oedd mewn gofal gall y Share Foundation helpu. Os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill am Gronfa Ymddiriedolaeth Plant, dylech gysylltu 芒 darparwr eich cronfa.
Bydd yn rhaid i chi ddarparu tystiolaeth o gyfrifoldeb rhiant, er enghraifft tystysgrif mabwysiadu.
Cewch lythyr yn cadarnhau y gallwch gymryd gyfrifoldeb dros y cyfrif. Dangoswch hwn i鈥檙 darparwr Cronfa Ymddiriedolaeth Plant a fydd yn gallu diweddaru鈥檙 cyfrif i roi gwybod mai chi yw鈥檙 cyswllt cofrestredig.
Share Foundation
E-bost: info@sharefound.org
Ff么n: 01296 310 400
Dysgwch am gostau galwadau
1st Floor
Ardenham Court
Oxford Road
Aylesbury
HP19 8HT
Pan fydd plentyn mewn gofal yn troi鈥檔 16 oed
Bydd y Share Foundation yn ysgrifennu at y plentyn tua 2 fis cyn ei ben-blwydd yn 16 oed, gan roi gwybod iddo sut mae bod yn gyswllt cofrestredig ar gyfer y cyfrif.
Os yw鈥檔 dewis cymryd rheolaeth dros y cyfrif, gall wneud y canlynol:
- dechrau rheoli鈥檙 cyfrif pan fydd yn troi鈥檔 16 oed
- tynnu arian o鈥檙 cyfrif pan fydd yn troi鈥檔 18 oed