Cronfa Ymddiriedolaeth Plant
Os oes salwch angheuol ar eich plentyn neu os bydd yn marw
Os oes salwch angheuol ar eich plentyn, gallwch dynnu arian o鈥檌 gyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant. Os bydd yn marw, mae鈥檙 arian yn cael ei drosglwyddo i鈥檙 person sy鈥檔 etifeddu ei yst芒d (eiddo).
Os oes salwch angheuol ar eich plentyn
Mae 鈥榮alwch angheuol鈥� yn golygu bod ganddo glefyd neu salwch sy鈥檔 mynd i waethygu ac nad yw鈥檔 debygol o fyw am fwy na 6 mis. Dim ond y cyswllt cofrestredig sy鈥檔 cael tynnu arian o鈥檙 cyfrif.
Os ydych yn byw yng Nghymru neu Loegr, mae gennych hyd at 6 mis ar 么l y dyddiad y cafodd eich plentyn ei ddiagnosis i dynnu arian o鈥檙 cyfrif.
Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon, mae gennych hyd at 12 mis ar 么l y dyddiad y cafodd eich plentyn ei ddiagnosis i dynnu arian o鈥檙 cyfrif.
Os ydych yn byw yn yr Alban, does dim terfyn amser o ran tynnu arian o鈥檙 cyfrif.
Yr hyn y mae angen i chi ei wneud
Llenwch y ffurflen mynediad cynnar oherwydd salwch angheuol (yn agor tudalen Saesneg) i roi gwybod i Gyllid a Thollau EF (CThEF) am y canlynol:
- mae salwch angheuol ar eich plentyn
- eich bod am dynnu鈥檙 arian o鈥檙 cyfrif
Bydd yn rhaid i chi ddarparu tystiolaeth er mwyn dangos bod salwch angheuol ar eich plentyn.
Os yw鈥檆h plentyn yn marw
Bydd yr arian yn y cyfrif yn cael ei dalu i鈥檙 person sy鈥檔 etifeddu yst芒d y plentyn. Fel arfer, un o rieni鈥檙 plentyn yw hwn. Ond os oedd eich plentyn yn briod, gallai fod yn 诺r neu鈥檔 wraig i鈥檙 plentyn.
Os ydych yn cael Budd-dal Plant ar gyfer plentyn sydd wedi marw, gall hyn barhau am gyfnod byr wedi鈥檙 farwolaeth.
Yr hyn y mae angen i chi ei wneud
Rhoi gwybod i ddarparwr cyfrif y Gronfa Ymddiriedolaeth Plant. Fel rheol bydd angen i chi roi tystiolaeth, er enghraifft y dystysgrif marwolaeth.