Talu arian i mewn i'r cyfrif

Gall unrhyw un dalu arian i mewn i gyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant.

Daeth y cynllun Cronfa Ymddiriedolaeth Plant i ben yn 2011. Gallwch wneud cais am ISA ar gyfer Plant Iau (yn agor tudalen Saesneg) yn lle hynny.

Faint y gallwch ychwanegu

Gallwch roi hyd at 拢9,000 y flwyddyn i mewn i鈥檙 cyfrif - mae鈥檙 flwyddyn yn dechrau ar ben-blwydd y plentyn ac yn dod i ben ar y diwrnod cyn ei ben-blwydd nesaf.

Os na fyddwch yn defnyddio鈥檙 terfyn o 拢9,000, chewch chi ddim trosglwyddo unrhyw swm nas defnyddiwyd i鈥檙 flwyddyn ganlynol.

Sut mae talu arian i mewn

Ar gyfer cyfrifon rhanddeiliaid, gallwch ychwanegu arian drwy鈥檙 canlynol:

  • siec
  • archeb sefydlog
  • debyd uniongyrchol

Ar gyfer cyfrifon cynilo neu gyfranddaliadau, holwch eich darparwr.

Taliadau gan y llywodraeth

Nid yw taliadau gan y llywodraeth yn cyfrif tuag at y 拢9,000, ar wah芒n i daliadau gan gyngor lleol i blentyn mewn gofal.