Treuliau os ydych yn hunangyflogedig
Treuliau car, fan a theithio
Gallwch hawlio treuliau busnes caniataol ar gyfer costau fel:
- yswiriant cerbyd
- atgyweiriadau a gwasanaethu
- tanwydd
- parcio
- costau hurio
- ffioedd trwydded cerbydau
- yswiriant torri i lawr
- tocynnau tr锚n, tocynnau bws, tocynnau tram, tocynnau awyren a chostau tacsi
- ystafelloedd gwesty
- prydau bwyd ar deithiau busnes dros nos
Ni allwch hawlio ar gyfer:
- costau moduro a theithio nad ydynt yn gysylltiedig 芒鈥檙 busnes
- dirwyon neu gosbau
- teithio rhwng cartref a鈥檙 gwaith
Efallai y byddwch yn gallu cyfrifo鈥檆h treuliau car, fan neu feic modur gan ddefnyddio cyfradd unffurf (a elwir yn 鈥榯reuliau symlach鈥�) i gyfrifo鈥檙 milltiroedd yn lle cyfrifo鈥檙 costau gwirioneddol o brynu a rhedeg eich cerbyd.
Os nad ydych yn si诺r p鈥檜n ai yw cost busnes yn draul ganiataol neu beidio, cysylltwch 芒 Chyllid a Thollau EF (CThEF).
Prynu cerbydau
Os ydych yn defnyddio cyfrifyddu traddodiadol ac yn prynu cerbyd ar gyfer eich busnes, gallwch hawlio lwfansau cyfalaf ar gost y pryniant.
Os ydych yn defnyddio cyfrifyddu ar sail arian parod (yn agor tudalen Saesneg) ac yn prynu car ar gyfer eich busnes, gallwch hawlio鈥檙 gost hon fel lwfans cyfalaf ar yr amod nad ydych yn defnyddio treuliau symlach.
Gallwch hawlio pob math arall o gerbyd fel traul ganiataol.